Blwyddyn newydd dda i bawb gan dîm Awel y Môr. Ac mae hi’n argoeli i fod yn flwyddyn brysur!
Ar ôl sicrhau ein llwybr i'r farchnad, mae ein sylw bellach yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer adeiladu a gwneud ein penderfyniad buddsoddi terfynol.
Gyda chylch gyntaf o ymchwiliadau safle ac archaeoleg wedi'u cynnal, rydym bellach yn paratoi i gynnal cylch arall a fydd yn fodd i ni fireinio’r gwaith o ddylunio arae ar y môr y fferm wynt, yn ogystal â chyflwr y tir a'r hanes archeolegol ar hyd llwybr y cebl a'r is-orsaf ar y tir yng Nghefn Meiriadog.
Yn y cylchlythyr hwn mae diweddariad am gynlluniau ar gyfer 2026, yn ogystal â gwybodaeth am ein her ynni adnewyddadwy a gynhelir ar y cyd â Gyrfa Cymru, yn ogystal â'n gwaith parhaus â'r gadwyn gyflenwi.
Yn ogystal â'r cylchlythyr hwn, os hoffech dderbyn diweddariadau sy'n berthnasol i'r gadwyn gyflenwi, efallai yr hoffech danysgrifio i fenter STEP RWE.
|
|
|
Awel y Môr yn goresgyn rhwystr mawr cyn gweithredu’r fferm wynt
|
|
|
Mae sicrhau llwybr i'r farchnad ar gyfer y prosiect trwy gylch arwerthiant Contractau Gwahaniaeth Llywodraeth y DU (AR7) yn golygu bod y prosiect wedi goresgyn rhwystr mawr arall yn ei daith i weithredu’r fferm wynt.
Meddai Philippa Powell, Arweinydd Prosiect Awel y Môr: "Gyda'r Contract Gwahaniaeth llwyddiannus yma wedi’i ddyfarnu, gall un o fuddsoddiadau ynni adnewyddadwy mwyaf Cymru bellach symud ymlaen tuag at y cam nesaf o ddatblygu a gweithredu’r fferm wynt yn hyderus.
"Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn datblygu a mireinio ein cynllun ac yn meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid a chyflenwyr, ein camau nesaf fydd cynnal ymchwiliadau ychwanegol ar y tir ac ar y môr yn ystod 2026, cyn adeiladu ar y tir yn 2027.
"Wrth gwrs, byddwn yn sicrhau bod ein cymunedau lleol, cyflenwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill yn parhau i gael eu diweddaru wrth i ni symud ymlaen."
Mae’r Contract Gwahaniaeth y cytunwyd arno yn gwarantu isafswm pris o £91.20 am bob megawat awr o drydan a gynhyrchir: os bydd pris y farchnad yn disgyn o dan y lefel hon, bydd y llywodraeth yn talu’r gwahaniaeth, ac os bydd pris y farchnad yn codi’n uwch na hynny, bydd y datblygwr yn talu’r gwarged yn ôl i Lywodraeth y DU.
Mae hyn yn cymharu â phris o £147 am bob megawat awr, ar gyfer unrhyw gapasiti cynhyrchu nwy newydd.
Llwyddodd prosiectau Norfolk Vanguard East a Norfolk Vanguard West RWE, yn ogystal â'i ddau brosiect Dogger Bank South - pob un ohonynt wedi'u lleoli ym Môr y Gogledd – i sicrhau CfD hefyd.
Meddai Markus Krebber, Prif Weithredwr RWE AG: "Rydym yn falch iawn o fod wedi llwyddo i sicrhau contractau tymor hir ar gyfer pum prosiect yn AR7.
"Yn Awel y Môr, rydym yn falch o gydweithio â Stadtwerke München a Siemens, sy'n cyfrannu eu harbenigedd a'u hymrwymiad i'n llwyddiant.
"Gyda chanlyniad llwyddiannus AR7, mae RWE wedi cyrraedd cerrig milltir allweddol wrth weithredu ei gynlluniau datblygu gwynt ar y môr yn y DU."
|
|
|
Yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyfarfod tîm Awel y Môr yn dilyn cais CfD llwyddiannus
|
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn cyfarfod tîm Awel y Môr ochr yn ochr â chydweithwyr o Fferm Wynt ar y Môr bresennol Gwynt y Môr, a phrentisiaid RWE.
|
Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Mae datblygu prosiect Awel y Môr yn newyddion o bwys i Ogledd Cymru a bydd yn dod a mwy o swyddi medrus iawn â chyflogau da ac yn sicrhau twf i'r ardal leol.
"Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda buddsoddwyr i ddatblygu pŵer glân yn y wlad hon a fydd yn sicrhau ein cyflenwad ynni ac yn gostwng biliau am byth.
"Mae Cymru wrth wraidd hyn a bydd prosiectau fel Awel y Môr yn ein helpu i gyflawni'r nodau hynny."
|
|
|
Cynlluniau’n datblygu ar gyfer arolygon pellach ar y môr
|
Wrth i'r llwybr i ddarparu fferm wynt 50 tyrbin sy'n gallu pweru mwy na 50 y cant o'r cartrefi yng Nghymru gael ei baratoi, mae'r tîm yn sicrhau'r trwyddedau morol angenrheidiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal arolygon o fewn yr ardal 78 cilomedr sgwâr oddi ar arfordir gogledd Cymru lle bydd arae tyrbinau'r fferm wynt wedi'i lleoli, a'r coridor o wely'r môr a neilltuwyd ar gyfer llwybr y cebl allforio.
Disgwylir i'r arolygon geoffisegol a'r geodechnegol ddechrau yn y Gwanwyn a pharhau tan yr Hydref.
Bydd yr arolwg yn cynnwys cynnal arolygon geoffisegol seismig 3D ar draws ardal yr arae a choridor y cebl allforio i gael gwybodaeth am ddyfnderoedd dŵr, nodweddion gwely'r môr, seilwaith tanfor presennol, a pheryglon gwely'r môr.
Bydd yr arolwg geodechnegol yn cael ei gynnal gan ddefnyddio dwy dechneg benodol: prawf treiddiad côn (CPT) a samplau vibracore, gyda'r ddau yn cael eu defnyddio ar draws ardal yr arae a choridor y cebl allforio i gyfrannu at benderfyniadau dylunio pellach.
Unwaith y bydd y data wedi'i gasglu, bydd yn cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar ddyluniad terfynol y fferm wynt yn ogystal â helpu i bennu unrhyw ofynion eraill o ran arolygon cyn y gwaith adeiladu llawn ar y môr.
|
Disgyblion Ysgol Uwchradd yng Nghymru’n ymateb i'r Her Ynni Adnewyddadwy gydag Awel y Môr
|
|
|
Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens gyda myfyrwyr yn ymgymryd â Her Ynni Adnewyddadwy RWE yn Ysgol Uwchradd Cei Connah
|
Mae myfyrwyr mewn ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn cael gwybodaeth werthfawr am y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i hybu'r chwyldro diwydiannol gwyrdd gyda chymorth staff o RWE, cwmni cynhyrchu ynni adnewyddadwy mwyaf Cymru.
Mae disgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi cael tasgau gwirioneddol o ran gwynt ar y môr neu’r diwydiant i ymchwilio iddynt, wedi’u cyflwyno fel heriau gwyddonol neu beirianneg.
Gan weithio mewn grwpiau, byddant yn cynnal ymchwil ac yn edrych ar faterion sy'n berthnasol i'r diwydiant ynni adnewyddadwy, megis: ymchwilio i ffyrdd o gynyddu bioamrywiaeth o amgylch sylfeini tyrbinau gwynt ar y môr; dulliau o fonitro rhywogaethau lleol fel adar neu famaliaid morol yn ystod y gwaith datblygu ac adeiladu, ac ystyriaethau bioamrywiaeth eraill, gan ganolbwyntio ar yr arfordir yn lleol yng ngogledd Cymru.
Mae holl gynlluniau’r gwersi wedi'u cynllunio i fodloni gofynion cwricwlwm Cymru, gan annog disgyblion i ddatblygu sgiliau allweddol yn y gweithle o ran ymchwil, cydweithio, datrys problemau a chyflwyno sgiliau, ymhlith eraill.
Meddai Poppy Tremayne, Rheolwr Rhanddeiliaid a Sgiliau RWE: "Mae angen cymaint o sgiliau gwahanol i ddatblygu, adeiladu a gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy fel ffermydd gwynt ar y môr. Mae yna weithwyr allan yn y maes sy'n cynnal arolygon, peirianwyr desg sy'n gweithio yng nghyfnodau datblygu a gweithredu prosiect, a'r technegwyr sy'n mynd allan ar y môr i archwilio a chynnal ein tyrbinau gwynt.
"Mae rhoi blas i fyfyrwyr o'r hyn sydd allan yna iddyn nhw yn hynod bwysig. Yn ôl ffigurau diweddaraf y diwydiant, tyfodd gweithlu'r diwydiant gwynt ar y môr yn y DU 24 y cant rhwng 2023 a 2024, a disgwylir y caiff tua 40,000 o swyddi newydd eu creu cyn 2030.
"Gyda phrosiectau fel Awel y Môr wedi'u cynllunio ar gyfer y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru, mae cyfle gwirioneddol i fyfyrwyr fel y rhain yma yn Sir y Fflint ac ar draws gogledd Cymru gael gyrfaoedd cynaliadwy, wrth iddynt fynd trwy’r ysgol uwchradd a dysgu am y camau i fyd diwydiant."
Datblygwyd yr Her Ynni Adnewyddadwy gan y tîm sy'n gweithio ar Fferm Wynt ar y Môr Awel y Môr dan arweiniad RWE, ar y cyd â'r ysgol uwchradd, a gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru.
Meddai’r Gweinidog Sgiliau a chyn-fyfyriwr Ysgol Uwchradd Cei Connah, Jack Sargeant AS: "Mae'n wych gweld myfyrwyr yn fy hen ysgol yn cael profiad ymarferol gyda'r sgiliau gwyrdd a fydd yn pweru dyfodol Cymru. Mentrau fel Her Ynni Adnewyddadwy RWE yw'r union beth sydd ei angen arnom i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer y miloedd o swyddi o safon sy'n cael eu creu ym maes ynni adnewyddadwy ledled Cymru.
"Trwy gysylltu’r dysgu yn yr ystafell ddosbarth â chyfleoedd yn y diwydiant, rydym yn rhoi llwybr clir i fyfyrwyr yng Ngogledd Cymru i yrfaoedd cynaliadwy ar garreg eu drws."
|
Ceisiadau ar agor ar gyfer cynllun prentisiaeth Technegydd Tyrbinau Gwynt
|
Un o brentisiaid RWE yn gweithio ar dyrbin yng Ngholeg Llandrillo
|
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer technegydd tyrbinau gwynt dan brentisiaeth RWE – cynllun sydd wedi ennill gwobrau.
Mae'r cynllun, a ddatblygwyd gyda Choleg Llandrillo, yn rhoi cyfle i fentro i fyd ynni adnewyddadwy, ac ennill cyflog wrth ddysgu.
Mae'r brentisiaeth yn cyfuno hyfforddiant ymarferol ag addysg dechnegol, gan gynnig y cyfle i weithio ochr yn ochr â thechnegwyr profiadol, wrth gwblhau cymwysterau academaidd.
Pan nad ydynt yn gwneud gwaith yn y coleg, bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedi'u lleoli ar y safle mewn fferm wynt yn y DU - gall ymgeiswyr ddewis eu safle.
Ymhlith y safleoedd sy'n recriwtio eleni mae fferm wynt fwyaf Cymru ar hyn o bryd, Gwynt y Môr, sy'n cael ei gwasanaethu o Borthladd Mostyn yn Sir y Fflint.
|
Cymeradwyaeth ar gyfer fferm wynt ar y tir yng ngogledd Cymru
|
Mae RWE wedi derbyn cymeradwyaeth i adeiladu fferm wynt newydd ar y tir yng ngogledd Cymru sy'n gallu cynhyrchu pŵer sy'n cyfateb i anghenion hyd at 70,600 o gartrefi.
Mae Fferm Wynt Coedwig Alwen RWE, safle sy’n ymestyn ar draws ffiniau cynghorau Bwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych, wedi derbyn caniatâd ar gyfer naw tyrbin 200m o uchder, a leolir yn agos at Gronfa Ddŵr Alwen.
Ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, bydd Coedwig Alwen hefyd yn cyfrannu at dargedau ar gyfer perchnogaeth leol drwy gymdeithas budd cymunedol, sy'n cael ei datblygu gan RWE mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru.
Gyda chaniatâd bellach wedi’i sicrhau, camau nesaf y prosiect yw sicrhau llwybr i'r farchnad yn amodol ar benderfyniad buddsoddi terfynol gyda'r gwaith adeiladu i ddilyn, o bosibl yn dechrau
|
|
|
|