Croeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr.
Ar ôl sicrhau ein llwybr i’r farchnad, mae tîm y prosiect yn tyfu’n gyflym wrth i ni weithio tuag at ddechrau’r gwaith adeiladu yn 2027.
Yn ogystal â dechrau ymgyrch helaeth arolwg ar y môr ym mis Mai, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi ac roedd yn bresennol yng nghynhadledd Ynni Môr Cymru yn Llandudno yn ddiweddar.
Yn ogystal â siarad â busnesau a sefydliadau sy’n gweithio ar draws y sector a chyflwyno nifer o drafodaethau panel, roeddem hefyd yn gallu noddi presenoldeb 20 o fyfyrwyr o Brifysgolion Cymru, gan eu galluogi i rwydweithio a chwrdd â darpar gyflogwyr yn y dyfodol.
Bu modd i ni hefyd gyflwyno adnodd newydd fel rhan o’n Rhaglen Ymgysylltu Tryloywder Cyflenwyr sy’n caniatáu i’r busnesau hynny na fyddant yn contractio’n uniongyrchol â’r prosiect ddod o hyd i’w lle yn y gadwyn gyflenwi honno’n haws.
Os hoffech chi gysylltu â’r tîm, mae croeso i chi gysylltu naill ai drwy e-bost neu dros y ffôn. Mae’r manylion ar wefan y prosiect: www.awelymor.cymru
|
|
|
|
Awel y Môr yn cefnogi myfyrwyr i fynd i gynhadledd ynni môr fwyaf Cymru
|
Tîm Awel y Môr yn Ynni Môr Cymru, a gynhaliwyd yn Venue Cymru
|
|
|
|
Mae’r tîm sy’n gyfrifol am Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr wedi cefnogi myfyrwyr o brifysgolion Cymru, gan gynnwys Bangor, Aberystwyth ac Abertawe, i fynd i gynhadledd ynni môr fwyaf y wlad.
Daeth ugain o fyfyrwyr ar gyrsiau sy’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy ac amgylchedd y môr o brifysgolion Cymru i’r gynhadledd, gan eu galluogi i rwydweithio â darpar gyflogwyr mewn diwydiannau perthnasol a siarad â gweithwyr proffesiynol profiadol.
Bu modd i’r myfyrwyr hefyd fynd i drafodaeth panel gyrfaoedd cynnar a noddwyd gan Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr, lle roedd Isobel Emery yn un o’r siaradwyr, rheolwr cydsyniadau ar gyfer Awel y Môr a oedd wedi ymgymryd y flaenorol â lleoliad blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’i hastudiaethau.
|
Isobel Emery yn siarad ar banel gyrfaoedd cynnar yn Ynni Môr Cymru 2026
|
Mae Isobel yn gweithio ar draws ystod eang o bynciau cydsyniadau cynllunio sy’n ofynnol dan Orchymyn Cydsyniad Datblygu’r prosiect, gan gynnwys ar y tir, ar y môr a sgiliau a chyflogaeth.
Dywedodd Isobel: “Mae Awel y Môr yn gyfle enfawr i Gymru, ac roeddwn yn falch o allu rhannu fy mhrofiad o ymuno â’r diwydiant hwn sy’n tyfu’n gyflym ar brosiect mor arwyddocaol gyda myfyrwyr sydd hefyd yn awyddus iawn i ddod o hyd i waith yn y sector ynni adnewyddadwy.
Mae sawl llwybr i weithio ym maes ynni adnewyddadwy, ac mae angen ystod eang o sgiliau a chymwysterau, o’r technegwyr medrus iawn sy’n cadw’r pŵer i lifo i’r rhai sy’n gweithio ar ddatblygu seilwaith newydd.
“Mae galw mawr am y sgiliau hynny gan amrywiaeth eang o fusnesau yma yng Nghymru, nid yn unig y rhai sy’n datblygu ac yn rhedeg safleoedd fel RWE yn uniongyrchol, ond hefyd darparwyr cychod, gwneuthurwyr offer, ecolegwyr, archaeolegwyr neu arbenigwyr logisteg.”
Mae cynhadledd flynyddol Ynni Môr Cymru yn dod â datblygwyr a chwmnïau’r gadwyn gyflenwi sy’n gweithio ar draws ardaloedd gwynt, llanw ac ardaloedd ynni môr eraill sy’n gweithio yng Nghymru at ei gilydd, ac mae’n cael ei darparu gan sefydliad Ynni Môr Cymru.
Dywedodd Jay Sheppard, Uwch Reolwr Prosiect yn Ynni Môr Cymru: “Rydym yn ddiolchgar o weld Awel y Môr yn cefnogi cynhadledd eleni, yn enwedig o ran helpu i alluogi myfyrwyr i fod yn bresennol. Mae nawdd fel hyn yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wneud y digwyddiad yn hyfyw ac o greu man lle gall y sector ddod at ei gilydd i gysylltu, rhannu gwybodaeth a meithrin momentwm.
Mae ein cynhadledd yn fforwm allweddol ar gyfer cydweithio ar draws sector ynni adnewyddadwy ar y môr Cymru, felly mae’n wych cael Awel y Môr yn cefnogi’r gwaith hwn wrth iddynt symud ymlaen i gyflawni prosiectau yn dilyn eu llwyddiant diweddar yn y Contract r gyfer Gwahaniaeth. Mae eu ffocws ar ymgysylltu â gweithlu’r dyfodol yn arbennig o galonogol a’r union beth sydd ei angen ar y sector wrth iddo barhau i dyfu.“
Dywedodd yr Athro Tom Rippeth o Brifysgol Bangor: "Hoffwn ddiolch i Awel y Môr am y cyfle gwych y gwnaethon nhw ei greu drwy gefnogi ein myfyrwyr i fynd i gynhadledd Ynni Môr Cymru yn Llandudno. Ar adeg pan fo angen sgiliau gwyddor môr ar gyfer datblygiad cyflym arfaethedig ynni adnewyddadwy ar y môr, mae'r cyfle i fynychu'r gynhadledd hon wedi galluogi'r myfyrwyr i weld eu rolau yn y datblygiadau hyn."
|
|
|
|
Derbyniodd ugain myfyriwr o brifysgolion Cymru docynnau am ddim diolch i brosiect Awel y Môr
|
Dywedodd Luca Kaplan, myfyriwr BSc Eigioneg a Geoffiseg: “Fe wnes i ddysgu llawer oddi wrth y paneli ar brosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, yn ogystal â’u cadwyni cyflenwi lleol pwysig. Yn benodol, roedd siarad â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant am eu rolau a’u profiadau yn ddefnyddiol, gan ei fod wedi rhoi dealltwriaeth gliriach i mi o’r llwybrau yn y sector.”
Dywedodd Millie Merryweather, myfyriwr MSc Ynni Môr Adnewyddadwy: “Roedd cynhadledd Ynni Môr Cymru yn brofiad gwych, gan gynnig cyfle i ddysgu’n uniongyrchol gan arweinwyr y diwydiant a chael cipolwg gwerthfawr ar weithio yn y sector. Mae’r gynhadledd wedi fy ysbrydoli fel myfyriwr gradd meistr i barhau i ddatblygu fy ngwybodaeth am ynni adnewyddadwy ac adeiladu tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, gwyrddach.
Dywedodd Austin Kitson, myfyriwr MSc Diogelu Amgylchedd y Môr: “Roedd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y diwydiant a dysgu mwy am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer prosiectau adnewyddadwy ar y môr. Gwelais hefyd fod y bobl yn yr arddangosfeydd yn rhoi cymorth drwy ateb cwestiynau ac fe gefais i un cynnig hyd yn oed i mi estyn allan unrhyw adeg os oeddwn i eisiau gwneud rhywfaint o ymchwil gyda nhw! Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle.”
|
|
|
|
Arolygon ar y môr sydd ar fin mynd rhagddynt
|
Mae arolygon ymchwiliadau safleoedd ar y môr ar gyfer prosiect Awel y Môr ar fin dechrau fel rhan o’r contractau cyntaf a roddwyd yn dilyn dyfarnu ei Gontract ar gyfer Gwahaniaeth i’r prosiect ym mis Ionawr.
Bydd yr arolygon, a fydd yn cael eu cynnal gan gontractwyr Geo a TGS, yn galluogi gwelliannau dylunio pellach ar gyfer ardal yr aráe 78km2, yn ogystal â’i llwybr cebl allforio i safle’r lanfa rhwng y Rhyl a Phrestatyn.
Bydd TGS yn cynnal arolwg geoffisegol, gan ddefnyddio delweddu manylder uchel, i fapio daeareg gwely’r môr yn fanwl, gan gynnwys nodi’r dyfnderoedd lle mae haenau creigiau’n newid, nodi unrhyw glogfeini mawr a nodweddion eraill ar wely’r môr a allai effeithio ar waith adeiladu ar y môr.
Bydd Geo yn cynnal arolwg geodechnegol a fydd yn defnyddio technegau profi treiddio côn a samplu fibrograidd i ymchwilio i natur ddaearegol gwely’r môr ei hun, er mwyn adeiladu ar wybodaeth a gasglwyd yn ystod arolygon tyllau turio blaenorol yn ogystal â gwaith PhD a wnaed ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd Jo Pickard, Uwch Reolwr Cydsyniadau Awel y Môr: “Bydd y data ychwanegol hwn o’r arolwg yn galluogi’r tîm i fireinio’r dyluniad ac addasu ein dulliau ar gyfer adeiladu ar y môr, sydd wedi’i gynllunio ar hyn o bryd i ddechrau yn 2029.
“Bwriedir dechrau adeiladu ar y tir yn 2027 gyda’r is-orsaf ar y tir, yn cael ei dilyn gan y llwybr ceblau yn 2028.
“Byddwn wrth gwrs yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r holl randdeiliaid perthnasol wrth i’n cynlluniau fynd rhagddynt.”
Bydd GEO yn defnyddio dau gwch, a fydd yn gwneud gwaith mewn gwahanol ardaloedd o wely’r môr.
Dywedodd Kim Sillemann, Rheolwr Gyfarwyddwr GEO: “Mae Geo, yr arbenigwyr CPT treiddiad dwfn, yn falch o gael contract gan RWE ar gyfer ymchwiliadau geodechnegol yn Awel y Môr, lle bydd y rig CPT mawr newydd o’r enw ‘GeoScope II’ yn cael ei ddefnyddio yn ardal aráe’r fferm wynt.
Bydd y GeoCeptor, rig cyfun CPT a fibrograidd effeithiol yn cyflawni’r rhaglen ar hyd llwybr y cebl allforio ar y môr”
|
Wedi’u Herio’n Adnewyddol
|
|
|
|
Myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah yn cymryd rhan yn Her Ynni Adnewyddadwy RWE
|
Gyda diwedd y flwyddyn academaidd yn nesáu, mae Her Ynni Adnewyddadwy RWE, a gafodd ei derbyn gan fyfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, hefyd yn dirwyn i ben.
Mae myfyrwyr Blwyddyn 9 wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ac yn edrych ar faterion sy’n berthnasol i’r diwydiant ynni adnewyddadwy, gan gynnwys bioamrywiaeth, gan ganolbwyntio ar arfordir gogledd Cymru.
Mae tîm Awel y Môr, ar y cyd â Gyrfa Cymru, bellach yn edrych ar sut y gellir cyflwyno’r her i ysgolion eraill.
Dywedodd Poppy Tremayne, Rheolwr Rhanddeiliaid a Sgiliau Awel y Môr: “Roedd yn fraint gweld y myfyrwyr yn mynd i’r afael â natur ac agweddau eraill ar wynt ar y môr fel y mae’n berthnasol i ble maen nhw’n byw, ac rwy’n falch iawn y gallwn ni nawr edrych ar sut y gall weithio mewn ysgolion eraill ledled Cymru.”
|
Helpu darpar gyflenwyr i lywio drwy gadwyn gyflenwi ynni gwynt ar y môr
|
Fel buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd mewn seilwaith, mae Awel y Môr yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i fusnesau sy’n gweithio ym maes ynni adnewyddadwy, y rhai ym maes peirianneg sifil neu drydanol, a diwydiannau cysylltiedig eraill.
Mae’r Adnodd Llywio Cyflenwyr wedi cael ei greu i helpu cyflenwyr i ddeall yn well eu safle yn y gadwyn gyflenwi ynni gwynt ar y môr, gan eu helpu i deimlo eu bod yn cael mwy o wybodaeth a’u bod yn gallu dod o hyd i gyfleoedd gydag RWE sy’n cyd-fynd â’u sgiliau a’u galluoedd.
Mae hefyd yn egluro pa wasanaethau sy’n cael eu caffael yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan RWE, gan helpu busnesau i deilwra, targedu a chryfhau eu hymgysylltiad â’r datblygwr neu gontractwyr posibl priodol eraill
Dywedodd Jordan O’Neill, Rheolwr Datblygu Cadwyn Gyflenwi Awel y Môr: Rydyn ni’n deall, ar gyfer busnesau na fyddant yn contractio’n uniongyrchol â thîm prosiect Awel y Môr, y gall dod o hyd i’r contractwyr perthnasol i is-gontractio â nhw deimlo fel brwydr galed.
“Drwy greu’r adnodd hwn, gallwn dynnu rhywfaint o’r gwaith sy’n cymryd mwy o amser allan o’r broses hon, a lleihau’r rhwystrau i gyflenwyr newydd ennill gwaith ym maes gwynt ar y môr.”
Mae’r adnodd yn rhan o Raglen Ymgysylltu Tryloywder Cyflenwyr RWE, sydd ar gael yma.
|
|
|
|
|