Gweithio gyda chyflenwyr

 

Fel prosiect sy’n cael ei arwain gan RWE, mae gan Awel y Môr ddau lwybr ar gyfer ymgysylltu â chyflenwyr.

Ar gyfer cwmnïau sefydledig sy’n awyddus i weithio’n uniongyrchol gydag RWE, mae gennym borth caffael. Mae hyn yn cyflwyno gallu eich busnes i’n tîm caffael, a gall hyn arwain at waith ar safleoedd gweithredol a safleoedd datblygu ar draws ein portffolio.

Gyda’r tîm bellach yn gweithio tuag at benderfyniad buddsoddi terfynol, rydym yn symud drwy’r broses gaffael ar gyfer nifer o becynnau allweddol. Os ydych chi’n dymuno cysylltu â ni ond ddim yn siŵr â phwy i gysylltu, defnyddiwch y manylion ar y dudalen gysylltiadau ar ein gwefan.

Gallwch hefyd fynd i’r dudalen gofrestru ar gyfer proffil caffael RWE drwy ddefnyddio’r ddolen isod.

Rhaglen STEP

Ar gyfer cwmnïau sy’n dymuno dod o hyd i le yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer portffolio ynni gwynt ar y môr RWE, gan gynnwys y rheini sydd y tu allan i’r haen gyntaf, mae gennym y Llwyfan Tryloywder ac Ymgysylltu â Chyflenwyr (STEP).

Mae hwn yn ddull arloesol o ymgysylltu â chyflenwyr wrth i’r cwmni geisio ehangu’r cyfleoedd i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy i gronfa ehangach o fusnesau yn y DU.

 

Dros amser, mae dull RWE o gyfathrebu â chyflenwyr posibl wedi dod yn fwy cyfannol wrth i ni ymdrechu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd o’n prosiectau sy’n mynd drwy’r broses ddatblygu.

I’r perwyl hwnnw, mae STEP wedi cael ei greu fel dull mwy rhagweithiol o ddechrau a chynnal deialog barhaus gyda chyflenwyr.

Mae STEP hefyd yn golygu ein bod wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant parhaus o ran sut rydyn ni’n cysylltu â busnesau sy’n awyddus i fod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer ynni gwynt ar y môr.

Fel rhan o hyn, byddwn yn datblygu gwell dealltwriaeth o allu, gan arfogi busnesau i gydweithio â’i gilydd i helpu i ddatrys heriau allweddol yn y diwydiant a’r gadwyn gyflenwi.

Ar ben hynny, rydym wedi rhoi arferion newydd ar waith, fel tudalennau newydd penodol i brosiectau, sydd â’r nod o fod yn fwy tryloyw a gwella ymwybyddiaeth o gerrig milltir a gofynion prosiectau.

Hefyd, ceir cyfres o ddiwrnodau ymgysylltu â chyflenwyr, llwyfan ymgysylltu hawdd ei ddefnyddio gyda swyddogaethau chwilio agored, a diweddariadau prosiect rhagweithiol, yn ogystal â’r cyfle i gadw mewn cysylltiad ag aelodau o dîm y prosiect gyda galwadau bob chwarter.