Read in English

Haf 2026

 Rydym wrthi’n paratoi ar gyfer cyfnod adeiladu’r prosiect, gyda’r ymchwiliadau safle ar y môr ar gyfer ardal yr arae a llwybr y ceblau alltraeth bron â’u cwblhau. Ar y tir, mae cam olaf yr ymchwiliadau archaeolegol ar safle’r is-orsaf ar waith ac mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu ffosydd prawf ddechrau ar ein llwybr ceblau yn ddiweddarach yn yr haf.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn parhau i gynorthwyo busnesau yn y rhanbarth i wneud cais i weithio ar brosiect Awel y Môr, gan gynnal sesiwn friffio yn y Gynhadledd Fyd-eang Ynni Gwynt Alltraeth a gynhaliwyd ym Manceinion, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a chlwstwr diwydiant rhanbarthol y Gynghrair Ynni Alltraeth.

Yn olaf, os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith, mae croeso ichi gysylltu â’r prosiect drwy wefan Awel y Môr: www.awelymor.cymru

 

Yn barod i gloddio

Ymchwiliadau archaeolegol blaenorol ar safle’r is-orsaf ar y tir

Ymchwiliadau archaeolegol blaenorol ar safle’r is-orsaf ar y tir

Mae ymchwiliadau archaeolegol yn mynd rhagddynt ar safle’r is-orsaf ar y tir, ac mae gwaith tebyg hefyd ar fin dechrau ar hyd y llwybr ceblau. Mae’r ddau ddarn hyn o waith yn cael eu cynnal gan ddau gwmni o Gymru.

Mae’r ymchwiliadau ar safle’r is-orsaf yn cael eu cynnal gan Archaeology Wales, sydd wedi’i leoli ym Mhontypridd, tra mae’r gwaith ar y llwybr ceblau yn nwylo cangen fasnachol Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru. Mae gan Heneb swyddfeydd ym Mangor.

Bydd Archaeology Wales yn ymchwilio i ardaloedd o safle’r is-orsaf a bennwyd ar gyfer astudiaeth bellach yn ystod gwaith i gloddio ffosydd prawf yn 2024, ardaloedd a allai gynnwys gweddillion o’r Oes Rufeinig neu’r Oes Haearn.
Fel rhan o’r ymchwiliadau, bydd ardaloedd o bridd ar rannau o’r safle’n cael eu symud er mwyn i archaeolegwyr allu cynnal ymchwiliadau â llaw. Bydd unrhyw ddarganfyddiadau perthnasol yn cael eu symud o’r safle i’w hastudio ymhellach a bydd y safle’n cael ei adfer ar ôl cwblhau’r gwaith. 

Fel rhan o’r gwaith hwn, gosodwyd goleuadau traffig dros dro ar ran o Ffordd Glascoed, i’r gorllewin o Barc Busnes Llanelwy, i sicrhau bod contractwyr yn ddiogel pan fyddant yn mynd i’r safle ac ohono.

Dywedodd Siân Thomas, Swyddog Prosiect yn Archaeology Wales: “Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio ar gynllun ynni adnewyddadwy mor bwysig i Gymru. Mae Archaeology Wales yn cyflogi tua 16 o bobl, ac mae cynllun fel hwn sy’n cael ei arwain gan ddatblygwr yn rhan fawr o’n gwaith.

“Yn ystod gwaith blaenorol, fe ddaethpwyd o hyd i nodweddion a oedd yn awgrymu ei bod yn debygol bod yno anheddiad o’r Oes Haearn i’r Oes Frythonig-Rufeinig, ac mae’r gwaith hwn yn gyfle pwysig i ychwanegu at yr hyn rydym ni’n ei ddeall am weithgarwch cynhanesyddol a Brythonig-Rufeinig yn Nyffryn Clwyd, ardal a chanddi dirwedd archaeolegol gyfoethog, ond un nad yw ond wedi’i harchwilio’n rhannol.” 

Bydd Heneb yn ymchwilio i leoliadau amrywiol ar hyd y llwybr ceblau 12km o hyd ar y tir, gan gloddio tua 30 o ffosydd prawf yr haf hwn. Cafodd y lleoliadau hyn eu nodi fel rhai a allai gynnwys archaeoleg wedi’i chladdu yn sgil arolygon geoffisegol a gynhaliwyd yn gynharach yn natblygiad y prosiect. 

Mae disgwyl i’r gwaith hwn ddod i ben ym mis Hydref cyn ailgychwyn y gwanwyn nesaf, pan fydd ffosydd prawf pellach yn cael eu cloddio ar hyd y coridor ceblau.

 

Hei Mistar Urdd

Aelodau o gôr Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Caerdydd, ochr yn ochr ag Eleri Davies o RWE

Aelodau o gôr Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Caerdydd, ochr yn ochr ag Eleri Davies o RWE

Gydag Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ar Ynys Môn eleni, roedd tîm Awel y Môr wrth ei fodd o gefnogi’r digwyddiad, gan noddi sgriniau mawr o amgylch y maes.

Gofynnwyd hefyd i Eleri Davies, Pennaeth Datblygiadau Ynni Gwynt ar y Tir RWE ar gyfer Cymru a Lloegr, gyflwyno gwobr, gan roi tlws i Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd am ennill cystadleuaeth y parti unsain.

Dywedodd Eleri Davies: “Fel cwmni â phresenoldeb mor fawr yma yng Nghymru, rydym ni’n falch iawn o allu cefnogi digwyddiadau a sefydliadau diwylliannol pwysig, fel yr Urdd.

“Rwy’n gwybod bod gan lawer o aelodau staff sy’n gweithio ar ein safleoedd ledled Cymru atgofion melys o gymryd rhan mewn cystadlaethau, fel llefaru, canu a dawnsio gwerin, a bod gan eraill blant sy’n cystadlu bob blwyddyn hefyd.”

 

O Gymru i’r Byd

Jordan O’Neill, Rheolwr Datblygu Cadwyn Gyflenwi Awel y Môr, yn rhoi cyflwyniad yn y Gynhadledd Fyd-eang Ynni Gwynt Alltraeth a gynhaliwyd eleni ym Manceinion

Jordan O’Neill, Rheolwr Datblygu Cadwyn Gyflenwi Awel y Môr, yn rhoi cyflwyniad yn y Gynhadledd Fyd-eang Ynni Gwynt Alltraeth a gynhaliwyd eleni ym Manceinion

Bu Jordan O’Neill, Rheolwr Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi, yn rhannu’r diweddaraf am y prosiect, gan gynnwys gwybodaeth am hynt y prosiect hyd yma a’n camau nesaf.

Ymunodd Ffion Davies o’r Gynghrair Ynni Alltraeth, clwstwr y diwydiant sy’n cwmpasu gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Cheryl Whittaker, Rheolwr Ymgysylltu Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, ag ef.

Y digwyddiad dau ddiwrnod o hyd hwn yw un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf y byd ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy, gyda miloedd o bobl yn dod i’r gynhadledd o bob rhan o’r byd.

Y tîm yn trafod y prosiect gydag Adam Price AS, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

Y tîm yn trafod y prosiect gydag Adam Price AS, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

Yn ogystal â chwrdd â chwmnïau posibl yn y gadwyn gyflenwi a chydweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, cyfarfu’r tîm ag Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru.

Roedd y tîm hefyd yn falch o groesawu grŵp o ddisgyblion o Ysgol Maes Garmon yn Sir y Fflint i stondin RWE i siarad am ynni gwynt ar y môr yn eu hardal nhw.

Ysgol Maes Garmon from Mold in Flintshire also visited the stand to find out more about offshore wind in north Wales.

Bu Ysgol Maes Garmon o’r Wyddgrug yn Sir y Fflint hefyd yn ymweld â’r stondin i ddod i wybod mwy am ynni gwynt ar y môr yng ngogledd Cymru

Dywedodd Jordan O’Neill: “Mae Awel y Môr, a’r sector ynni gwynt ar y môr ehangach, yn gyfle pwysig i wireddu twf economaidd, felly mae sicrhau bod busnesau yng ngogledd Cymru ac mewn ardaloedd cyfagos yn deall sut y gallai eu gwasanaethau nhw fod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi yn hollbwysig.

“Mae Offeryn Llywio Cyflenwyr RWE yn darparu dull hunanwasanaeth sy’n cynorthwyo cyflenwyr i ddod o hyd i gyfleoedd gydag RWE sy’n gydnaws â’u sgiliau a’u galluoedd. Mae hefyd yn darparu eglurder o ran pa wasanaethau sy’n cael eu caffael yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

“Fodd bynnag, roedd croesawu disgyblion ysgol o ogledd Cymru i’r stondin yn uchafbwynt. Bwriedir i Awel y Môr fod yn weithredol am ran helaeth o ail hanner y ganrif, felly bydd disgyblion Ysgol Maes Garmon heddiw yn elwa’n uniongyrchol wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn, p’un a fyddan nhw’n cael eu cyflogi yn y diwydiant ynni adnewyddadwy, neu’n defnyddio’r ynni i bweru eu cartrefi a’u gweithleoedd.”

 

Cymorth i lywio’ch ffordd drwy’r gadwyn gyflenwi ynni gwynt ar y môr

Wrth i brosiect Awel y Môr agosáu at y cam adeiladu a’r cam gweithredu, bydd tîm y gadwyn gyflenwi’n parhau i gynorthwyo busnesau’r rhanbarth i lywio’u ffordd drwy’r pecynnau gwaith amrywiol sydd eu hangen drwy gydol oes fferm wynt ar y môr.

Yn ogystal ag offer ar-lein a chronfeydd data, bydd hyn hefyd yn cynnwys digwyddiadau gwybodaeth a fydd yn cael eu cynnal yng ngogledd Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

Os hoffai eich busnes chi fod ymhlith y cyntaf i gael unrhyw wahoddiadau perthnasol, beth am ystyried ymuno â menter STEP RWE?

 
Awel Y Mor Amserlen
Awel Y More Offshore Wind Farm contact details