Sut mae gwrandawiadau archwiliad Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) yn gweithio?

Archwiliad DCO

Penododd Arolygiaeth Gynllunio’r DU banel o arolygwyr, a elwir yn Awdurdod Archwilio, i adolygu’r cais ar ran Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Cynhaliodd yr Awdurdod Archwilio y cyfarfod rhagarweiniol ar 20 Medi, gyda gwrandawiadau eraill wedi’u trefnu i drafod materion penodol sy’n ymwneud â’n cynigion

Daeth yr archwiliad i ben am 23:59, 20 Mawrth 2023.

Mae gwrandawiadau’n canolbwyntio ar ganfod ffeithiau heb osod un ochr yn erbyn un arall ac, er bod y gwrandawiadau’n bwysig, mae’r broses archwilio’n un ysgrifenedig yn bennaf. Mae’r holl ddogfennau wedi’u cyhoeddi ar wefan Arolygiaeth Gynllunio’r DU (Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr | Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol (planninginspectorate.gov.uk/cy/) – cyfeiriwch at y pennawd ‘Archwiliad’ sydd ar ochr chwith y dudalen ‘Dogfennau’

Isod ceir rhywfaint o wybodaeth a fydd yn ddefnyddiol i chi gobeithio.

Gwrandawiadau Cyhoeddus

Archwiliad DCO

Cynhaliwyd y gwrandawiadau cyhoeddus cyntaf ar gyfer prosiect Awel y Môr ar 21 a 22 Medi 2022.

Cynhaliwyd y gwrandawiadau hyn yn Venue Cymru, Llandudno, ac roedd croeso i unrhyw un fod yn bresennol.

Mae recordiad sain a nodiadau o’r cyfarfodydd cyntaf ar gael ar dudalen we prosiect Arolygiaeth Gynllunio’r DU Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr | Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol (planninginspectorate.gov.uk/cy/)

Cynhaliwyd gwrandawiadau eraill ar 7 ac 8 Rhagfyr 2022, ar 28 Chwefror 2023, a 1 Mawrth 2023.

Cynhaliwyd archwiliad safle hefyd ar 6 Rhagfyr 2022.

Beth ddigwyddodd a phwy a ddaeth i siarad yn y gwrandawiadau?

Archwiliad DCO

Cyn pob gwrandawiad, cyhoeddwyd pynciau trafod ac enwau’r rhai y gofynnwyd iddynt fod yn bresennol neu ateb cwestiynau ysgrifenedig, ar wefan Arolygiaeth Gynllunio’r DU.

Gwahoddwyd eraill hefyd i gyfrannu – ‘Partïon â Diddordeb’ a gofrestrodd cyn amser drwy wneud ‘sylwadau perthnasol’, a chyrff statudol, gan gynnwys y rheoleiddwyr perthnasol.

Nid oes gan bobl nad ydynt wedi’u cofrestru fel Partïon â Diddordeb hawl awtomatig i gymryd rhan, ond caiff y panel ganiatáu iddynt wneud hynny.

Darparwyd cyngor ar y broses gofrestru mewn cylchlythyrau blaenorol, ac mae rhagor o wybodaeth am gymryd rhan yn yr Archwiliad ar gael ar wefan Arolygiaeth Gynllunio’r DU.

Sut mae’r gwrandawiadau’n rhan o’r broses?

Archwiliad DCO

Cafodd Arolygiaeth Gynllunio’r DU chwe mis i archwilio ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu.

Ar ôl i’r archwiliad ddod i ben, bydd yr Awdurdod Archwilio yn anfon ei ganfyddiadau a’i gasgliad, ochr yn ochr ag argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net erbyn 20 Mehefin 2023 fan bellaf.  Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol wedyn dri mis arall i wneud penderfyniad.

Beth wnaeth yr Awdurdod Archwilio benderfynu bydd yn cael ei gynnwys?

Archwiliad DCO

• Hedfanaeth
• Bioamrywiaeth, ecoleg a’r amgylchedd naturiol
• Defnyddiau masnachol o’r môr megis morgludiant, mordwyaeth, pysgodfeydd
• Caffael tir yn orfodol a meddiannu tir dros dro
• Adeiladu
• Y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu drafft
• Perygl llifogydd ac ansawdd dŵr
• Yr effaith ar yr amgylchedd morol naturiol
• Dyluniad da
• Amgylchedd hanesyddol
• Defnydd Tir

• Morwedd, tirwedd ac effaith weledol
• Prosesau ffisegol morol ac arfordirol
• Defnyddiau masnachol o’r môr megis morgludiant, mordwyaeth, pysgodfeydd
• Yr effaith ar yr amgylchedd morol naturiol
• Prosiectau a chynigion eraill gerllaw
• Iechyd y cyhoedd a niwsans
• Prosiectau a chynigion eraill gerllaw
• Disgrifiad o’r prosiect a dewis safle
• Morwedd, tirwedd ac effaith weledol
• Economeg gymdeithasol
• Twristiaeth a hamdden
• Traffig a thrafnidiaeth