Ein sefyllfa ar hyn o bryd

Rhagor o wybodaeth

Cawsom ein Contract Gwahaniaeth fel rhan o Rownd Arwerthu 7 ym mis Ionawr 2026. Mae tîm y prosiect nawr yn gweithio tuag at ei benderfyniad buddsoddi terfynol.

Cawsom ein Gorchymyn Cydsyniad Datblygu a’n trwyddedau morol yn 2023, gan gymeradwyo uchafswm nifer y tyrbinau rhwng 34 a 50, gydag uchder mwyaf blaen y llafn yn 332m.

Yn 2024, fe wnaethom gynnal arolygon helaeth ar gyflwr y ddaear, a hynny ar y môr ac ar hyd llwybr ceblau’r prosiect. Cynhaliwyd ymchwiliadau archeolegol hefyd ar safle arfaethedig yr is-orsaf, ynghyd â gwaith lliniaru ar gyfer madfallod dŵr cribog, gan gynnwys creu cynefin newydd ar gyfer y rhywogaeth warchodedig bwysig hon.

Mae’r prosiect wrthi’n paratoi ar gyfer ei benderfyniad buddsoddi terfynol.

Rhai elfennau allweddol o’r prosiect sydd bellach wedi cael eu diffinio yw coridor y ceblau ar y môr, lleoliad tirfa’r ceblau ar y tir, coridor y ceblau ar y tir, safleoedd posibl ar gyfer compowndiau adeiladu dros dro, a lleoliad yr is-orsaf.

Mae rhai agweddau ar y dyluniad manwl, fel dyluniad yr is-orsaf ar y tir a niferoedd a dimensiynau’r tyrbinau, yn dal wrthi’n cael eu datblygu, a bydd y manylion yn cael eu cadarnhau wrth i ni gyrraedd y penderfyniad buddsoddi terfynol.