Buddion Cymunedol

a sut gallwn ni helpu

Mae gan RWE, sy’n arwain datblygiad Fferm Wynt ar y Môr Awel y Môr, wreiddiau dwfn yng ngogledd Cymru ac mae wedi buddsoddi’n sylweddol yn y rhanbarth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Mae hyn yn cynnwys helpu i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi i adeiladu prosiectau fel Gwynt y Môr ac, yng Nghoedwig Clocaenog, adeiladu gweithlu lleol cryf ym Mhorthladd Mostyn a’n safle hydro yn Nolgarrog, a hefyd y pecynnau budd cymunedol sy’n gysylltiedig â’r gwahanol brosiectau rydyn ni’n eu gweithredu.

Mae Awel y Môr yn buddsoddi mewn gweithgareddau cadwyn gyflenwi a sgiliau wrth i ni symud tuag at y cam adeiladu a hoffai hefyd adeiladu ar ein hetifeddiaeth o weithio gyda chymunedau lleol.

Gwnaethom gychwyn y sgwrs ar sut y gallai’r etifeddiaeth hon edrych ar gam cynnar iawn trwy glywed eich barn ar sut y gallai’r fferm wynt ar y môr newydd hon gefnogi eich cymuned leol orau.

Yn 2022 gwnaethom gynnal ymgynghoriad cam cynnar i helpu i lywio ein syniadau ar sut y gall Awel y Môr gefnogi cymunedau orau, a’r egwyddorion arweiniol cyffredinol ar gyfer pecyn budd cymunedol.

Yma fe welwch enghreifftiau o rai o’r ffyrdd y mae prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n cael eu gweithredu gan RWE eisoes yn cefnogi’r cymunedau sy’n byw agosaf atynt, ledled y DU.

Astudiaethau achos

Ymestyniad y Buddion Cymunedol