Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr

Polisi Preifatrwydd

Heblaw eich bod chi’n darparu gwybodaeth bersonol i ni’n wirfoddol ac yn bwrpasol, dydyn ni ddim yn casglu gwybodaeth bersonol gan unigolion. Diben ein proses o gasglu gwybodaeth bersonol yw ymateb i geisiadau am wybodaeth neu i ddarparu’r manylion diweddaraf am brosiectau. Byddwn yn pasio eich gwybodaeth bersonol i bobl eraill sy’n cael eu cyflogi gennym i bwrpas prosesu eich manylion ac anfon gwybodaeth atoch. Ni fyddwn yn gwerthu neu’n darparu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti, heblaw fel sydd wedi’i nodi yn y fan hyn, heblaw pan fo’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni wneud hynny. Swyddfa Gofrestredig Awel y Môr Wind Farm Limited yw Windmill Hill Business Park, Whitehill Way, Swindon, Wiltshire, SN5 6PB. Cofrestredig yng Nghymru a Lloegr Rhif. 07320597.

Datganiad Atal Caethwasiaeth

Mae Awel y Môr Offshore Wind Farm Limited yn ymroddedig i’r gofynion statudol o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, ac i weithredu gyda gonestrwydd yn ei holl waith a chydberthnasau busnes er mwyn bod ag agwedd o ddim goddefgarwch i Gaethwasiaeth Fodern. Mae’n disgwyl i’w gyflenwyr i gyd barchu a mabwysiadu’r agwedd hon hefyd. Mae’r datganiad llawn i’w gael yma: Datganiad Caethwasiaeth Fferm a Masnachu Pobl 2018 Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr

Mae Awel y Môr Wind Farm Limited (“Ni”), yn ymroddedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.

Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau defnydd ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddo) yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw ddata personol a gasglwn gennych, neu a ddarparwch i ni, yn cael ei brosesu gennym. Darllenwch y canlynol yn ofalus os gwelwch yn dda i ddeall ein safbwyntiau a’n harferion mewn perthynas â’ch data personol a sut y byddwn yn ei drin. Trwy fynd i www.awelymor.cymru, rydych yn derbyn ac yn cydsynio i’r arferion sydd wedi eu disgrifio yn y polisi hwn.

I bwrpas Deddf Diogelu Data 1998 (y Ddeddf), y rheolydd data yw RWE

Gwybodaeth y gallem ei chasglu gennych chi

Gallem gasglu a phrosesu’r data a ganlyn amdanoch chi:

  • Yr wybodaeth a rowch i ni. Efallai y byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni amdanoch eich hun drwy lenwi ffurflenni ar ein safle www.awelymor.com (ein safle) neu drwy gyfathrebu gyda ni ar y ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a rowch pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio ein safle, yn tanysgrifio i’n gwasanaeth a phan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am broblem gyda’n safle. Gallai’r wybodaeth a rowch i ni gynnwys eich enw, cyfeiriad,  cyfeiriad e-bost a rhif ffôn, gwybodaeth ariannol a cherdyn credyd, disgrifiad personol a ffotograff.
  • Gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi. Mewn perthynas â phob un o’ch ymweliadau â’n safle, gallem gasglu’r wybodaeth a ganlyn yn awtomatig:
    • gwybodaeth dechnegol, yn cynnwys y cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) a ddefnyddir i gysylltu eich cyfrifiadur â’r We, eich gwybodaeth fewngofnodi, y fersiwn a’r math o borwr, gosodiad y parth amser, fersiynau a mathau o ategyn porwr, system weithredu a phlatfform;
    • gwybodaeth am eich ymweliad, yn cynnwys y cliclif Lleolyddion Adnoddau Unffurf (URL) llawn ar ein safle, drwy ein safle ac o’n safle (gan gynnwys y dyddiad a’r amser); cynnyrch yr oeddech wedi edrych arnynt neu wedi chwilio amdanynt; amseroedd ymateb y dudalen, gwallau lawrlwytho, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithio â thudalennau (megis sgrolio, cliciau a symudiad y llygoden), a’r dulliau a ddefnyddiwyd i bori i ffwrdd oddi wrth y dudalen ac unrhyw rif ffôn a  ddefnyddir i alw ein rhif gwasanaeth y cwsmer.
  • Yr wybodaeth a dderbyniwn o ffynonellau eraill. Gallem dderbyn gwybodaeth amdanoch chi os ydych yn defnyddio unrhyw rai o’r gwefannau eraill a weithredwn neu’r gwasanaethau eraill a ddarparwn. Rydym hefyd yn gweithio’n agos â thrydydd partïon (gan gynnwys, er enghraifft, bartneriaid busnes, is-gontractwyr mewn gwasanaethau technegol, talu a darparu, rhwydweithiau hysbysebu, darparwyr dadansoddeg, darparwyr gwybodaeth chwiliadau, asiantaethau gwirio credyd) a gallai dderbyn gwybodaeth amdanoch chi ganddyn nhw.

Cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu chi oddi wrth ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori ein gwefan ac hefyd yn caniatáu i ni wella ein safle. I gael gwybodaeth fanwl am y cwcis a ddefnyddiwn ac i ba bwrpasau y defnyddiwn nhw, gwelwch ein polisi Cwcis.

Y defnyddiau a wnawn o’r wybodaeth

Rydym yn defnyddio gwybodaeth a ddaliwn amdanoch chi yn y ffyrdd dilynol:

  • Yr wybodaeth a rowch i ni. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon:
    • i weithredu ein goblygiadau sy’n codi o unrhyw gontractau a fydd yn cael eu gweithredu rhyngoch chithau a ninnau ac i roi’r wybodaeth, y cynhyrchion a’r gwasanaethau i chi y gofynnwch amdanynt gennym ni;
    • i roi’r wybodaeth i chi am nwyddau a gwasanaethau eraill a gynigiwn sy’n debyg i’r rheiny yr ydych wedi eu prynu neu wedi holi amdanynt yn barod;
    • i roi i chi, neu i ganiatáu i drydydd parti dethol roi i chi, unrhyw wybodaeth am nwyddau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein barn ni. Os ydych chi’n gwsmer yn barod, byddwn ni ond yn cysylltu â chi drwy ddulliau electronig (e-bost neu SMS) gyda gwybodaeth am nwyddau a gwasanaethau sy’n debyg i’r rheiny a oedd yn bwnc gwerthiant blaenorol neu negodiadau am werthiant i chi. Os ydych yn gwsmer newydd, a lle’r ydym yn caniatáu i drydydd parti ddefnyddio eich data, byddwn ni (neu nhw) yn cysylltu â chi drwy ddulliau electronig dim ond os ydych chi wedi cydsynio i hynny. Os nad ydych eisiau i ni ddefnyddio eich data yn y ffordd hon, neu basio eich manylion ymlaen i drydydd parti at ddibenion marchnata, ticiwch y bocs perthnasol os gwelwch yn dda sydd ar y ffurflen lle’r ydym yn casglu eich data (y ffurflen gofrestru);
    • i roi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth;
    • i sicrhau bod cynnwys o’n safle’n cael ei gyflwyno yn y dull mwyaf effeithiol i chi ac i’ch cyfrifiadur.
    • Gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon:
      • i weinyddu ein safle ac ar gyfer gweithredoedd mewnol, gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profion, ymchwilio, a phwrpasau ystadegol ac arolygon;
      • i wella ein safle i sicrhau bod y cynnwys wedi ei gyflwyno yn y dull mwyaf effiethiol i chi ac i’ch cyfrifiadur;
      • i adael i chi gyfranogi yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud hynny;
      • yn rhan o’n hymdrechion i gadw ein safle yn ddiogel;
      • i fesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebu a rown i chi ac eraill, ac i ddarparu hysbysebion sy’n berthnasol i chi;
      • i wneud awgrymiadau ac argymhellion i chi a defnyddwyr eraill ein safle am y nwyddau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi neu iddyn nhw.
    • Gwybodaeth a dderbyniwn o ffynonellau eraill. Gallem gyfuno’r wybodaeth hon gyda gwybodaeth a rowch i ni a gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi. Gallem ddefnyddio’r wybodaeth hon a’r wybodaeth gyfunedig at y dibenion sydd wedi eu nodi uchod (yn dibynnu ar y mathau o wybodaeth a dderbyniwn).

    Datgelu eich gwybodaeth

    Gallem rannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw aelod o’n grŵp, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni dal pennaf a’i is-gwmnïau, fel sydd wedi ei ddiffinio yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau’r DU 2006.

    Gallem rannu eich gwybodaeth gyda chyrff trydydd parti dethol yn cynnwys:

    • Partneriaid busnes, cyflenwyr ac is-gontractwyr i weithredu unrhyw gontractau a drefnwn gyda nhw neu chi.
    • Hysbysebwyr a rhwydweithiau hysbysebu sydd angen y data i ddethol a darparu hysbysebion perthnasol i chi ac eraill. Nid ydym yn datgelu gwybodaeth am unigolion adnabyddadwy i’n hysbysebwyr, ond gallem ddarparu gwybodaeth gyfanred iddynt am ein defnyddwyr (er enghraifft, gallem roi gwybod iddynt bod 500 o ddynion dan 30 oed wedi clicio ar eu hysbyseb ar ddiwrnod penodol). Gallem hefyd ddefnyddio’r math hwn o wybodaeth gyfanred i helpu hysbysebwyr i gyrraedd y math o gynulleidfa y maen nhw eisiau ei chyrraedd (er enghraifft, merched yn SW1). Gallem ddefnyddio’r data personol a gasglwn gennych i’n galluogi ni i gydymffurfio â dymuniadau ein hysbysebwyr drwy arddangos eu hysbyseb i’r gynulleidfa darged honno.
    • Darparwyr peiriannau chwilio a dadansoddeg sy’n ein helpu i wella ac optimeiddio ein safle.

    Gallem ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti:

    • Os byddwn yn gwerthu neu’n prynu unrhyw fusnes neu asedau, yn yr achos hwn gallem ddatgelu eich data personol i ddarpar-brynwr neu ddarpar- werthwr busnes neu asedau o’r fath.
    • Os bydd trydydd parti yn caffael Awel y Môr Wind Farm Limited neu ei holl asedau yn sylweddol, yna bydd y data personol y mae’n ei ddal am ei gwsmeriaid yn un o’i asedau trosglwyddedig.
    • Os ydym ni o dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw oblygiad cyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu weithredu ein telerau defnydd neu ein hamodau a thelerau cyflenwi a chytundebau eraill; neu i ddiogelu hawliau, eiddo, neu ddiogelwch Awel y Môr Wind Farm Limited, ein cwsmeriaid, neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau a sefydliadau at ddibenion diogelu rhag twyll a gostwng risgiau credyd.

Ymhle yr ydym yn storio eich data personol

Gallai’r data a gasglwn gennych gael ei drosglwyddo i, a’i storio mewn, cyrchnod y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“EEA”). Gallai hefyd gael ei brosesu gan staff sy’n gweithredu y tu allan i’r EEA sy’n gweithio i ni neu i un o’n cyflenwyr. Gallai staff o’r fath fod wrthi, ymysg pethau eraill, yn cyflawni eich archeb, yn prosesu eich manylion talu ac yn darparu gwasanaethau cymorth. Trwy ddarparu eich data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddo, storio neu brosesu hwn. Byddwn yn cymryd pob cam sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Lle’r ydym wedi rhoi cyfrinair i chi (neu lle’r ydych wedi dewis cyfrinair)  sy’n caniatáu i chi fynd i mewn i rannau penodol o’n gwefan, rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair gydag unrhyw un arall.

Yn anffodus, nid yw trosglwyddiad gwybodaeth trwy gyfrwng y we yn hollol ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data sy’n cael ei drosglwyddo i’n safle; rydych yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth dan eich risg eich hun. Unwaith y byddwn yn derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau tynn a nodweddion diogelu i geisio atal mynediad heb awdurdod.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio prosesu eich data personol i bwrpasau marchnata. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu defnyddio eich data i bwrpasau o’r fath neu os byddwn yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti i bwrpasau o’r fath. Gallwch arfer eich hawliau i atal prosesu o’r fath drwy roi tic mewn blychau penodol ar y ffurflenni a ddefnyddiwn i gasglu eich data. Gallwch hefyd arfer yr hawl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni.

Gallai ein safle, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni at ac oddi wrth wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chysylltiadau. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.

Cael gafael ar wybodaeth

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi gael gafael ar wybodaeth sy’n cael ei dal amdanoch chi. Gallwch arfer eich hawl mynediad yn unol â’r Ddeddf. Efallai y bydd ffi o £10 os gwnewch gais am weld gwybodaeth er mwyn talu ein costau am roi manylion yr wybodaeth a ddaliwn amdanoch i chi.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Byddwn yn postio unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol ar y dudalen hon a, lle bo’n briodol, yn rhoi gwybod i chi mewn neges e-bost. Cadwch lygad yn rheolaidd i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd.

Cysylltu

Rydym yn croesawu cwestiynau, sylwadau a cheisiadau am y polisi preifatrwydd hwn a dylech eu hanfon i awelymor@rwe.com