Dod i adnabod y diwydiant ynni adnewyddadwy

Profiad gwaith rhithiol

Profiad gwaith rhithwir rhad ac am ddim ar alw i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes ynni adnewyddadwy.

Ochr yn ochr â’i bartner Springpod, mae RWE yn y DU wedi creu profiad dysgu rhithiol dwyieithog newydd i roi cipolwg i bobl ifanc ar sut beth fyddai gyrfa yn y sector gwynt ar y môr.

Mae Springpod yn sefydliad sy’n gweithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion a chyflogwyr i greu rhaglenni dysgu rhyngweithiol sy’n grymuso’r genhedlaeth nesaf ac yn eu galluogi i gymryd eu dyfodol i’w dwylo eu hunain drwy roi cyfle cyfartal iddynt.

Mae’r pecyn dysgu wedi’i dargedu at bobl ifanc 13-18 oed ac mae’n cynnwys fideos a chyfweliadau gydag aelodau o dîm RWE. Mae’n galluogi myfyrwyr i archwilio byd arloesol ynni gwynt ar y môr – o greu ffermydd gwynt ar y môr i ffactorau amgylcheddol a phrosiectau peirianneg arloesol.

Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt am y gyrfaoedd a’r llwybrau amrywiol i RWE a’r sector ehangach.

Un o’r manteision allweddol o sicrhau bod y dysgu hwn ar gael ar-lein yw ei fod yn gyfleus ac yn hygyrch ym mha le bynnag y mae pobl.

Mae profiad gwaith corfforol ym maes gwynt ar y môr yn anodd weithiau – felly mae darparu’r wybodaeth a’r cyfleoedd ar lwyfan rhithiol yn golygu ein bod yn gallu ymgysylltu â chynulleidfa ehangach o bobl ifanc.

I gofrestru ar gyfer ein rhaglen profiad gwaith rhithiol, cliciwch yma