Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Beth fydd gwerth pecyn buddion cymunedol Awel y Môr?
Nid yw prosiect Fferm Wynt ar y Môr Awel y Môr mewn sefyllfa eto i wneud unrhyw benderfyniadau neu ymrwymiadau ynghylch graddfa neu faint y pecyn budd cymunedol.
Wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, byddwn ni hefyd yn ystyried yn ofalus y canllaw ar Gronfeydd Cymunedol ar gyfer Seilwaith Trawsyrru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU.
Pryd fydd unrhyw gymorth cymunedol gan Awel y Môr yn dod ar gael?
Fel arfer, mae cymorth cymunedol yn dod ar gael pan mae’r prosiectau eu hunain yn dod yn gwbl weithredol. Ni fydd yr amserlen derfynol yn Awel y Môr yn cael ei phennu nes bod gennym fwy o fanylion am sut olwg fydd ar y cymorth cymunedol a sut bydd yn gweithio, fodd bynnag, rydyn ni’n disgwyl iddo gael ei gyflwyno’n bennaf ar ôl i’r prosiect ei hun ddod yn gwbl weithredol.
Mae canllaw Adran Diogelwch Ynni a Sero Net llywodraeth y DU ar Gronfeydd Cymunedol ar gyfer Seilwaith Trawsyrru yn debygol o alluogi rhywfaint o gymorth yn ystod y cam adeiladu.
A fydd Fferm Wynt ar y Môr Awel y Môr yn gweithredu cronfa gymunedol mewn ffordd debyg i ffermydd gwynt ar y môr presennol ym Mae Lerpwl oddi ar arfordir gogledd Cymru?
Fel prosiect newydd, rydyn ni’n manteisio ar y cyfle i ehangu ein gorwelion ac ystyried a allwn ni gefnogi’r gymuned leol mewn ffordd wahanol. Ar y cam cynnar hwn nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch sut y gallai’r prosiect gynnig cefnogaeth yn – neu i’r – ardal leol, felly rydyn ni’n gwbl agored i ystyried syniadau newydd ac arloesol yn ogystal â dulliau mwy cyfarwydd.
Ble fydd y fferm wynt a'i seilwaith ar y tir wedi'u lleoli?
Bydd Fferm Wynt ar y Môr Awel y Môr wedi’i lleoli i’r gorllewin o fferm wynt bresennol Gwynt y Môr, gyda cheblau tanddaearol y prosiect yn cyrraedd y tir rhwng Prestatyn a’r Rhyl, ar eu ffordd i is-orsaf y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan.
Pa gymunedau sydd wedi cael cymorth yn flaenorol gan becynnau budd cymunedol ffermydd gwynt yng ngogledd Cymru?

I’r rhai sy’n chwilio am gymorth, cysylltwch â Chymorth Gwirfoddol Cymunedol Conwy
Beth wnaethoch chi ei ddysgu yn ymgynghoriad budd cymunedol 2022?
Dechreuodd yr ymgynghoriad dau gam gyda sgyrsiau strwythuredig ansoddol gyda rhanddeiliaid lleol, ac yna arolwg ar-lein lle rhoddodd mwy na 400 o bobl leol adborth.
Y prif flaenoriaethau a nodwyd gan y gymuned fel rhan o’r ymgynghoriad budd cymunedol hwn oedd: Cymuned Leol; Amgylchedd Naturiol; Hyfforddiant a Chyflogaeth; a Newid Hinsawdd.
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr hefyd yn cytuno’n gryf y dylai unrhyw becyn buddion gael ei arwain gan bobl leol a chael ei weithredu’n strategol ledled gogledd Cymru drwy ystyried y cymorth arall sydd ar gael gan brosiectau ynni adnewyddadwy, yn ogystal â chynnwys pobl ifanc yn benodol wrth wneud penderfyniadau.
Sut arall alla’ i rannu barn ar sut rwy'n credu y dylai Awel y Môr fod o fudd i'm cymuned leol?
I ddilyn ein hymgynghoriad cam cynnar, rydyn ni wedi cynnal deialog barhaus gydag amrywiaeth o randdeiliaid ac unigolion ar sut y gall Awel y Môr gefnogi’r gymuned leol, drwy gydol datblygiad y fferm wynt. Byddem yn croesawu rhagor o sylwadau ac awgrymiadau.