Gweithio ar ffermydd gwynt RWE fel prentis

Prentisiaethau

RWE yw un o’r fflyd fwyaf o ffermydd gwynt ar y môr yn y DU, ac mae ei holl brentisiaid technegwyr yn hyfforddi gyda Grŵp Llandrillo Menai, yn ogystal â mynd allan ar y safle gydag uwch gydweithwyr profiadol ar ffermydd gwynt fel Rampion ar arfordir deheuol Lloegr, Gwastadeddau’r Rhyl yng ngogledd Cymru, a Sofia ym Môr y Gogledd.

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen technegwyr cynnal a chadw Lefel 3, sydd hyd yma wedi gweld mwy na 100 yn cofrestru, yn agor bob mis Ionawr, gyda’r cwrs yn dechrau ym mis Awst.

Mae prentisiaid yn hyfforddi i weithio ar safle gweithredol penodol, gyda phob un sydd wedi cymhwyso hyd yma yn cael cynnig swyddi parhaol ac mae nifer o gyn-brentisiaid wedi gwneud astudiaethau pellach ac wedi symud ymlaen i weithio ym maes rheoli.

Ochr yn ochr â’i gwrs ar gyfer technegwyr cynnal a chadw, mae RWE hefyd yn cynnal Uwch Brentisiaeth Foltedd Uchel Lefel 4, sef cynllun newydd gyda’r prentisiaid cyntaf yn dechrau ym mis Mawrth 2025, a Prentis Lefel 6 mewn SCADA a Chyfrifeg Lefel 6.