Fel cwmni ynni byd-eang sydd â degau o filoedd o weithwyr, mae RWE yn recriwtio prentisiaid, israddedigion a graddedigion yn rheolaidd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol profiadol o amrywiaeth eang o gefndiroedd mewn nifer enfawr o feysydd.
Mae’r amrywiaeth enfawr o swyddi yn cynnwys ein prosiectau ynni adnewyddadwy a storio batris mewn cyfnodau datblygu, adeiladu a gweithredu, yn ogystal â’n gorsafoedd pŵer nwy, ein cangen cyflenwi a masnachu, a’r holl swyddogaethau cefnogi sydd eu hangen ar gwmni mawr.
I weld y cyfleoedd cyfredol gydag RWE, ewch i’r dudalen gyrfaoedd yma.
