Strategaeth Sgiliau ac Addysg ar y gweill ar gyfer Awel y Môr

Mae tîm prosiect Awel y Môr yn gweithio gyda’r arbenigwr lleol James Goodman Consulting  i gynhyrchu Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth, a fydd yn nodi’r mentrau y bydd y prosiect yn eu creu neu’n eu cefnogi ym maes sgiliau, cyflogaeth ac addysg.
Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, byddwn yn ymgynghori ag unigolion a sefydliadau allweddol sy’n gweithio yn y sector sgiliau a chyflogaeth ledled gogledd Cymru i adeiladu ein strategaeth. Mae’r gwaith hwn yn barhad o’r ymgysylltu a’r ymgynghori strategol a gynhaliwyd i gynhyrchu strategaeth amlinellol yn ystod cam cyn caniatâd y prosiect.

Wrth greu ein strategaeth, rydyn ni’n gweithio i fynd i’r afael â materion sgiliau presennol ar draws gogledd Cymru, a chyfrannu at ddatblygu’r gweithlu sydd ei angen i gyflawni prosiectau seilwaith mawr fel hyn.

Os hoffech wybod mwy am y strategaeth hon, mae croeso i chi gysylltu â ni.