Amdanom Ni

ein stori

RWE yw’r gweithredwr ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru, gan gynhyrchu traean o holl drydan adnewyddadwy Cymru. Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau ar y tir, ar y môr a hydro y mae RWE yn eu gweithredu yn cynhyrchu digon o drydan i ddiwallu anghenion cyfatebol dros 550,000 o gartrefi. Mae hynny’n bron i hanner yr aelwydydd yng Nghymru.

RWE sy’n arwain gweithgareddau datblygu Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr. Fel cwmni ynni blaenllaw yn Ewrop, nod RWE yw galluogi pobl i wella ansawdd eu bywyd drwy ddefnyddio ynni’n fwy arloesol drwy gynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy.

Mae gan y tîm brofiad helaeth o ddatblygu, adeiladu a gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n gwneud cyfraniad sylweddol tuag at darged Pŵer Glân 2030 Llywodraeth y DU, a thargedau Llywodraeth Cymru i gynhyrchu 100% o’i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy Cymru erbyn 2035.