Cynghrair Ynni ar y Môr

Fel rhan o gyflawni ymrwymiadau Bargen y Sector Gwynt ar y Môr, mae RWE Renewables bellach yn hyrwyddwr ar gyfer datblygu clwstwr cadwyn gyflenwi newydd sbon o’r enw The Offshore Energy Alliance (OEA).

Mae’r clwstwr yn chwifio’r faner dros fusnesau lleol ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, gan godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd sydd ar y gweill yn y rhanbarth, ar draws y DU a thu hwnt.

Mae’r clwstwr hefyd yn hybu gweithgarwch ym meysydd arloesi, hyfforddiant a sgiliau. Fel clwstwr cadwyn gyflenwi newydd sbon, mae’r OEA yn gweithio’n galed i sicrhau ei fod wedi’i wreiddio yn y rhanbarth i ychwanegu’r budd lleol mwyaf.