Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Bydd Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr yn un o fuddsoddiadau seilwaith mwyaf Cymru y degawd hwn, gyda dros £2bn i gyd, a chyfleoedd i gael eu creu ar gyfer pobl leol yn ystod y gwaith adeiladu, ei chyfnod gweithredu o ddegawdau, a’i datgomisiynu yn y pen draw.
Mae Cyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr yn amcangyfrif y bydd angen i’r diwydiant recriwtio hyd at 90,000 yn rhagor o bobl yn y DU erbyn 2035 i gyrraedd y targedau presennol, gydag Awel y Môr yn gallu chwarae ei rhan i sicrhau bod gogledd Cymru yn parhau i elwa.
Ar hyn o bryd, mae RWE yn cyflogi dros 350 o staff yng Nghymru, a dros 3,000 ledled y DU. Hyd yma, mae’r cwmni wedi cofrestru dros gant o brentisiaid ar brentisiaethau Technegwyr Tyrbinau Gwynt ar y Môr, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â Grŵp Llandrillo Menai yn ei safle pwrpasol gwerth miliynau o bunnoedd yn y Rhyl.
Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu prosiect Awel y Môr, rydym wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth â’r gymuned am y cyfleoedd sy’n bodoli ym maes ynni adnewyddadwy, yn ogystal â gwneud cynlluniau ar gyfer ein gweithlu ni ein hunain yn y dyfodol.
