Gwmni cyfieithu yn gweithio gyda RWE

Astudiaeth Achos

Cymen

Mae Cymen yn gwmni cyfieithu Cymraeg <> Saesneg wedi’i leoli yng Nghaernarfon. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi arbenigo mewn cyfieithu cynnwys yn y diwydiant ynni – gan ddarparu cyfieithiadau o asesiadau effaith amgylcheddol, taflenni marchnata, dogfennau ymgynghori â’r cyhoedd, a chyfieithu ar y pryd mewn gwrandawiadau cynllunio.

Rydym yn credu’n gryf bod angen i ddatblygiadau pwysig fel hyn siarad â’r gymuned leol yn ei dewis iaith a’n gwaith ni yw teilwra’r neges ddwyieithog i’r gynulleidfa dan sylw – a dyna sydd wrth wraidd ein perthynas waith gydag RWE.

Mae eu gohebiaeth gyffredinol, deunyddiau marchnata a’r wefan yn gwbl ddwyieithog sy’n dangos bod y cwmni yn parchu tirwedd ieithyddol y gymuned y mae’n rhan ohoni.

Dywedodd Aled Jones, cyd-berchennog Cymen: “Fel cwmni, rydym yn arddel agwedd gadarnhaol at yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Rydym yn gweithredu cynllun seiclo i’r gwaith, yn gweithio tuag at darged sero-net, yn gwmni masnach deg, yn defnyddio ceir trydan ar gyfer cymaint o deithiau gwaith â phosib, ac wedi cyflawni achrediad mesur amgylcheddol ers dros 10 mlynedd.

“Mae ein cyfieithwyr wedi mwynhau’r her o ymchwilio i ddatblygiad Awel y Môr a bathu termau newydd yn y maes hwn. Mae’r Gymraeg yn iaith fyw ac mae angen i’r iaith addasu a thyfu ochr yn ochr â’r datblygiadau ynni adnewyddadwy hyn. Mae’n bleser cael bod yn rhan o’r prosiect pwysig a chyffrous hwn.

Cymen building