Ymateb rhagorol i ymgynghoriad fferm wynt Awel y Môr 

Hydref 2021

  • Daeth yr ymgynghoriad chwe wythnos i ben ar yr 11eg o Hydref 2021
  • Digwyddiadau a gynhelir am naw diwrnod ar draws gogledd Cymru yn ogystal â gweminarau ar-lein
  • Dros 900 o bobl yn mynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb

Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar fferm wynt Awel y Môr ymateb gwych gan aelodau o’r cyhoedd ledled gogledd Cymru. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus am naw diwrnod gan RWE Renewables ledled y rhanbarth, wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan roi cyfle i bobl gwrdd â’r tîm sy’n gweithio ar y prosiect a rhannu eu barn am y datblygiad arfaethedig.

Mynychodd dros 900 o bobl sesiynau wyneb yn wyneb a chyflwynwyd oddeutu 300 o ymatebion i’r arolwg ffurfiol ac ymatebion ysgrifenedig fel arall, pob un ohonynt yn rhoi adborth gwerthfawr. Bydd yr ymatebion hyn yn cael eu hystyried a’u cynnwys yng nghynigion terfynol y prosiect.

Mae Tamsyn Rowe o RWE Renewables yn awyddus i ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu, “Wrth gyflwyno ymgynghoriadau mae’n well gennym bob amser wneud hynny wyneb yn wyneb, ond roedd yr amgylchiadau presennol yn golygu bod angen i ni gynnig amrywiaeth o gyfleoedd. Dyna pam, yn ogystal â’r naw diwrnod a dreuliwyd yn teithio ar draws gogledd Cymru, ein bod hefyd wedi datblygu arddangosfa ar-lein a chynnal gweminarau ar-lein er mwyn i bobl rannu eu safbwyntiau a gofyn cwestiynau.

“Roedd hyn yn sicrhau bod cyfle i bawb gymryd rhan ac roedd yn wych gweld y nifer fawr o ymatebion a gafwyd.

“Byddwn nawr yn cymryd amser i ystyried yr holl adborth a gafwyd cyn llunio fersiwn terfynol ein ceisiadau ffurfiol y bwriadwn eu cyflwyno yng ngwanwyn 2022.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, naill ai wyneb yn wyneb, ar-lein neu drwy ohebiaeth ysgrifenedig gan fod y safbwyntiau lleol yn bwysig iawn i ni.”

Mae RWE, un o brif fusnesau adnewyddadwy’r byd, yn datblygu Awel y Môr ar ran ei hun a’i bartneriaid. Mae’r prosiect yn cynnig cyfle enfawr i Gymru wrth i’r wlad ymdrechu i gyrraedd ei tharged o gynhyrchu 70% o’r trydan a ddefnyddir ganddi o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Ffermydd gwynt ar y môr yw un o ddiwydiannau twf mwyaf y DU a bydd Awel y Môr yn helpu i sicrhau bod gogledd Cymru yn cael rhagor o fuddsoddiad yn yr ardal hon, gan ddod â chyfleoedd cadwyn gyflenwi sylweddol i’r economi leol.

Yn ystod y cam adeiladu, buddsoddodd Fferm Wynt Gwynt y Môr £90M mewn busnesau yng Nghymru ac ers iddi ddod yn gwbl weithredol, mae’r fferm wynt fel rheol wedi buddsoddi tua £8M yn economi Cymru bob blwyddyn.

rhannu