Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >
Daeth dros 100 o fusnesau i’r digwyddiad Diwrnod Ymgysylltu â Chyflenwyr cyntaf ar gyfer prosiect fferm wynt ar y môr Awel y Môr, a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau 20 Ebrill.
Awel y Môr, sy’n cael ei ddatblygu dan arweiniad cynhyrchydd ynni mwyaf Cymru, RWE, fydd y buddsoddiad mwyaf mewn ynni adnewyddadwy yn y wlad y degawd hwn.
Cyfarfu cynrychiolwyr o gwmnïau o bob rhan o ogledd Cymru, yn ogystal â gogledd orllewin Lloegr a thu hwnt, i rannu gwybodaeth a fydd yn helpu tîm datblygu RWE i sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r economi leol.
Agorodd y prosiect hefyd ei blatfform ymgysylltu â chyflenwyr i fusnesau gofrestru fel rhan o Raglen Tryloywder ac Ymgysylltu â Chyflenwyr (STEP).
Fe wnaeth chwaer-brosiect Awel y Môr, Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr, fuddsoddi £90m mewn busnesau yng Nghymru, gan greu 700 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu. Roedd Gwynt y Môr hefyd wedi creu 100 o swyddi tymor hir ar gyfer gweithwyr medrus a oedd yn cael eu llenwi’n bennaf gan bobl o ogledd Cymru, gyda llawer o’r rhain bellach yn gweithio ar weithrediadau a chynnal a chadw o Borthladd Mostyn.
Dywedodd Tamsyn Rowe, arweinydd prosiect Awel y Môr: “Bydd y sgyrsiau y mae tîm y prosiect wedi’u cael, ac y byddant yn parhau i’w cael, dros y misoedd nesaf yn amhrisiadwy wrth i ni geisio sicrhau bod gogledd Cymru a thu hwnt yn manteisio ar y diwydiant hwn sy’n tyfu.
“Fel y cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru, gyda 300 o staff ar draws safleoedd ym Mhenfro, Mostyn, Dolgarrog a Baglan, mae ein hanes o fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy heb ei ail yma.
“Mae’r rhaglen hon i gyflenwyr wedi’i sefydlu i alluogi ymgysylltiad parhaus ar hyd a lled y gadwyn gyflenwi, o’r cwmnïau haen uchaf i’r busnesau llai, mwy arbenigol. Mae hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth RWE o alluoedd cyflenwyr a chysylltu cwmnïau â staff allweddol y prosiect sy’n gallu cynnig arweiniad.
“Rwy’n annog unrhyw fusnes sy’n ystyried buddsoddi yn ei allu i ddefnyddio gwynt ar y môr i gofrestru ar ein gwefan.”
Mae RWE yn datblygu Awel y Môr gyda phartneriaid y prosiect, sef Stadtwerke München (30%) a Siemens Financial Services (10%). Mae RWE yn ail yn y byd am greu ynni gwynt ar y môr ac mae’n gyrru datblygiad y biblinell ynni gwynt ar y môr fwyaf yn y DU.
Yn rhyngwladol, bydd RWE yn ehangu ei gapasiti cynhyrchu gwyrdd pwerus i 50 gigawat erbyn 2030, ac mae’n buddsoddi mwy na €50 biliwn gros at y diben hwn yn y degawd hwn. Mae’n disgwyl buddsoddi hyd at £15 biliwn erbyn 2030 yn y DU.
Mae RWE yn datblygu ffermydd gwynt ar y tir mewn mannau eraill yng ngogledd Cymru hefyd, yng Ngaerwen ac Alwen. Mae gan y cwmni uchelgais hefyd ar gyfer gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.