Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >
Mae’r tîm sy’n gyfrifol am brosiect ynni adnewyddadwy mwyaf Cymru y degawd hwn wedi cymryd cam pellach ymlaen drwy gytuno ar brydles ar gyfer ei goridor ceblau trawsyrru ar y môr.
RWE, cynhyrchydd trydan mwyaf y DU, sy’n arwain y gwaith o ddatblygu Fferm Wynt Awel y Môr ac ar hyn o bryd mae’n aros am benderfyniad ynghylch ei Orchymyn Cydsyniad Datblygu, y daeth yr archwiliad ar ei gyfer i ben ym mis Mawrth 2023.
Mae’r cytundeb hwn i brydlesu hawliau gwely’r môr gydag Ystad y Goron yn un o nifer o gerrig milltir a gyflawnwyd wrth i dîm y prosiect baratoi i fwrw iddi ar unwaith os caiff y cais ei gymeradwyo yr hydref hwn.
Ar ben hynny, mae cynlluniau’n cael eu paratoi ar gyfer rheoli a buddsoddi yn y gadwyn gyflenwi gyda blaenoriaethau sy’n cwmpasu twf gwyrdd, seilwaith, arloesi a sgiliau, a bydd pob un o’r rhain yn allweddol i sicrhau budd i’r rhanbarth ac i’r DU yn ehangach. Mae darpar gyflenwyr eisoes yn gallu cofrestru eu diddordeb fel rhan o gynllun Rhaglen Ymgysylltu Tryloywder Cyflenwyr (STEP) RWE.
Dywedodd Tamsyn Rowe, Arweinydd Prosiect Awel y Môr, “Gyda’n cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu yn nwylo’r Ysgrifennydd Gwladol ar hyn o bryd, rydyn ni’n parhau i weithio er mwyn i’r prosiect allu bwrw ymlaen yn ddi-oed, pe bai’n cael ei gymeradwyo yr hydref hwn.
“Mae cytuno ar y brydles ar gyfer y gyfran o’r llwybr trawsyrru sydd ar y môr gydag Ystad y Goron yn gam pwysig ac mae’n dilyn dyfarnu trwydded forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ddrilio nifer o dyllau turio prawf fel rhan o ymchwiliadau safle.
“Gyda’r potensial i ddarparu pŵer sy’n cyfateb i hanner miliwn o gartrefi, mae dod â phrosiect Awel y Môr i’w lawn botensial yn gyfle mawr i ogledd Cymru a’r DU yn ehangach.”
Mae RWE yn datblygu Awel y Môr mewn menter ar y cyd â phartneriaid y prosiect, sef Stadtwerke München (30%) a Siemens Project Ventures (10%).
RWE yw’r cynhyrchydd pŵer mwyaf blaenllaw yn y DU, ac mae’n gyfrifol am oddeutu 15 y cant o’r holl drydan sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU drwy ei bortffolio gweithredol amrywiol o ynni gwynt ar y môr, ar y tir, dŵr, biomas a nwy.
Yn rhyngwladol, mae RWE yn dymuno ehangu ei gapasiti cynhyrchu gwyrdd pwerus i 50 gigawat erbyn 2030, gan fuddsoddi mwy na €50 biliwn gros at y diben hwn yn y degawd hwn. Mae’n disgwyl buddsoddi hyd at £15 biliwn erbyn 2030 yn y DU.
Mae RWE yn datblygu ffermydd gwynt ar y tir mewn mannau eraill yng ngogledd Cymru hefyd, yn y Gaerwen ac Alwen. Mae gan y cwmni uchelgais hefyd ar gyfer gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.