Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >
Mae myfyrwyr mewn ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn cael gwybodaeth werthfawr am y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i hybu’r chwyldro diwydiannol gwyrdd gyda chymorth staff o RWE, cwmni cynhyrchu ynni adnewyddadwy mwyaf Cymru.
Mae disgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi cael tasgau gwirioneddol o ran gwynt ar y môr neu’r diwydiant i ymchwilio iddynt, wedi’u cyflwyno fel heriau gwyddonol neu beirianneg.
Gan weithio mewn grwpiau, byddant yn cynnal ymchwil ac yn edrych ar faterion sy’n berthnasol i’r diwydiant ynni adnewyddadwy, megis: ymchwilio i ffyrdd o gynyddu bioamrywiaeth o amgylch sylfeini tyrbinau gwynt ar y môr; dulliau o fonitro rhywogaethau lleol fel adar neu famaliaid morol yn ystod y gwaith datblygu ac adeiladu, ac ystyriaethau bioamrywiaeth eraill, gan ganolbwyntio ar yr arfordir yn lleol yng ngogledd Cymru.
Mae holl gynlluniau’r gwersi wedi’u cynllunio i fodloni gofynion cwricwlwm Cymru, gan annog disgyblion i ddatblygu sgiliau allweddol yn y gweithle o ran ymchwil, cydweithio, datrys problemau a chyflwyno sgiliau, ymhlith eraill.
Meddai Poppy Tremayne, Rheolwr Rhanddeiliaid a Sgiliau RWE: “Mae angen cymaint o sgiliau gwahanol i ddatblygu, adeiladu a gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy fel ffermydd gwynt ar y môr. Mae yna weithwyr allan yn y maes sy’n cynnal arolygon, peirianwyr desg sy’n gweithio yng nghyfnodau datblygu a gweithredu prosiect, a’r technegwyr sy’n mynd allan ar y môr i archwilio a chynnal ein tyrbinau gwynt.
“Mae rhoi blas i fyfyrwyr o’r hyn sydd allan yna iddyn nhw yn hynod bwysig. Yn ôl ffigurau diweddaraf y diwydiant, tyfodd gweithlu’r diwydiant gwynt ar y môr yn y DU 24 y cant rhwng 2023 a 2024, a disgwylir y caiff tua 40,000 o swyddi newydd eu creu cyn 2030.
“Gyda phrosiectau fel Awel y Môr wedi’u cynllunio ar gyfer y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru, mae cyfle gwirioneddol i fyfyrwyr fel y rhain yma yn Sir y Fflint ac ar draws gogledd Cymru gael gyrfaoedd cynaliadwy, wrth iddynt fynd trwy’r ysgol uwchradd a dysgu am y camau i fyd diwydiant.”
Datblygwyd yr Her Ynni Adnewyddadwy gan y tîm sy’n gweithio ar Fferm Wynt ar y Môr Awel y Môr dan arweiniad RWE, ar y cyd â’r ysgol uwchradd, a gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru.
Meddai’r Gweinidog Sgiliau a chyn-fyfyriwr Ysgol Uwchradd Cei Connah, Jack Sargeant AS: “Mae’n wych gweld myfyrwyr yn fy hen ysgol yn cael profiad ymarferol gyda’r sgiliau gwyrdd a fydd yn pweru dyfodol Cymru. Mentrau fel Her Ynni Adnewyddadwy RWE yw’r union beth sydd ei angen arnom i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer y miloedd o swyddi o safon sy’n cael eu creu ym maes ynni adnewyddadwy ledled Cymru.
“Trwy gysylltu’r dysgu yn yr ystafell ddosbarth â chyfleoedd yn y diwydiant, rydym yn rhoi llwybr clir i fyfyrwyr yng Ngogledd Cymru i yrfaoedd cynaliadwy ar garreg eu drws.”