Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Gyda chymorth gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Ar y Môr Gwynt y Môr, llwyddodd Amgueddfa Llandudno i gynnal prosiect adnewyddu mawr a fydd yn caniatáu i nifer o genedlaethau fwynhau casgliad yr amgueddfa a’r hanes lleol y mae’n ei gynrychioli.
Gyda chymorth y gronfa, bydd yr amgueddfa hefyd yn gallu datblygu fel gweithgaredd dan do llawer mwy cyffrous i ymwelwyr, gan roi hwb i arlwy twristiaeth gyfoethog Llandudno, gyda chefnogaeth yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu oriel Gwynt y Môr, a fydd yn cynnal rhaglen o arddangosfeydd dros dro.
Yn ogystal, helpodd y cymorth gan Gwynt y Môr yr amgueddfa i gael mynediad at arian cyfatebol sylweddol o ffynonellau eraill i wneud y prosiect yn bosibl, oherwydd fe’i darparwyd ymlaen llaw, gan helpu llif arian y sefydliad.
