Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Fel rhan o waith cymunedol RWE wrth ddatblygu Fferm Wynt Ar y Môr Sofia, oddi ar arfordir Gogledd Swydd Efrog, crëwyd cyfres o ddeunyddiau addysgu o ansawdd uchel ar gyfer plant oed cynradd i ddod â daearyddiaeth, gwyddoniaeth a phynciau eraill yn fyw.
Gan weithio gydag ymddiriedolaeth academi aml-ysgol gyfagos, a darparwr adnoddau addysgol profiadol lleol, roedd yr asedau ar-lein a grëwyd yn cynnwys fideos a gyflwynwyd gan ddisgybl lleol, mapiau rhyngweithiol ac offer cynllunio.
Yn ogystal, mae nifer o sesiynau datblygu proffesiynol wedi’u darparu ar sut mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i gefnogi’r cwricwlwm presennol, gydag ugain o athrawon o ddwy ysgol ar bymtheg wahanol, o bob rhan o Lannau Tees, wedi mynychu’r sesiynau.
