Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Mae gan Jones Bros Civil Engineering UK berthynas hirsefydlog a llwyddiannus ag RWE Renewables, sy’n dyddio’n ôl i 2009.
Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr oedd y prosiect cyntaf y bu Jones Bros ac RWE yn cydweithio arno, gyda’r cwmni sydd â’i bencadlys yn Rhuthun yn cwblhau’r seilwaith yn yr is-orsaf yn Llanelwy.
Roedd y gwaith a wnaed ar gyfer y prosiect 160 tyrbin, sy’n cynhyrchu digon o bŵer ar gyfer 500,000 o gartrefi, yn cynnwys gosod draeniau, gwaith mynediad i’r safle a chlirio’r safle.
Jones Bros oedd y prif gontractwr ar Fferm Wynt Coedwig Clocaenog RWE, a oedd yn cynnwys 27 tyrbin ac yn darparu trydan adnewyddadwy sy’n cyfateb i anghenion 63,000 o gartrefi.

Wedi’i leoli llai na 10 milltir o’r fferm wynt, roedd Jones Bros wedi adeiladu ac uwchraddio 28km o draciau, adeiladu craeniau caled, gosod ceblau i gysylltu’r tyrbinau â’r grid, a chwblhau’r is-orsaf a’r gwaith adfer.
Penodwyd y cwmni peirianneg sifil hefyd i ddarparu pecyn gwaith galluogi ar gyfer gorsaf drawsnewid ar Fferm Wynt Alltraeth Sofia gyda 100 tyrbin, sydd wedi’i lleoli ar Dogger Bank yng nghanol Môr y Gogledd, mwy na 190 cilomedr o arfordir y Gogledd Ddwyrain.
Roedd y gweithgareddau’n cynnwys darparu llwyfannau gwaith sy’n cynnal llwythi ar gyfer y gorsafoedd trawsnewid, mynedfeydd ffyrdd newydd, mannau lles a storio, system ddraenio, a chyfleustodau cysylltiedig.
Dywedodd Eryl Roberts, cyfarwyddwr contractau Jones Bros: “Rydyn ni’n falch o fod wedi sefydlu cysylltiad cryf ag RWE ac rydyn ni’n gobeithio parhau i weithio gyda’n gilydd ar brosiectau pwysig yn y dyfodol.”