Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >
Mae fferm wynt alltraeth a allai bweru dros hanner cartrefi Cymru wedi cael ei holl gymeradwyaethau cynllunio angenrheidiol drwy ddyfarnu ei drwyddedau morol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’n gam pwysig i fferm wynt alltraeth Awel y Môr, sy’n cael ei datblygu gan RWE ar ran ei phartneriaid, ac a gafodd gymeradwyaeth o’i orchymyn cydsyniad datblygu gan Claire Coutinho, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, ym mis Medi 2023.
Fe fydd y cynllun hwn a fydd yn cael ei leoli oddi ar arfordir gogledd Cymru, y buddsoddiad mwyaf mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn ystod y degawd hwn.
Mae Awel y Môr hefyd yn un o saith datblygiad fferm wynt alltraeth yn y DU y mae Ystad y Goron yn asesu ceisiadau ar eu cyfer i gynyddu capasiti cynhyrchu y tu hwnt i Gytundeb Les cychwynnol y prosiect, gan aros o fewn ei ffiniau cydsynio presennol.
Dywedodd Tamsyn Rowe, Rheolwr y Prosiect: “Gyda’r trwyddedau morol bellach ar waith, gall fferm wynt alltraeth Awel y Môr barhau i symud ymlaen i gamau nesaf y prosiect.
“Fel uchafbwynt dros bum mlynedd o waith yn cynnwys ymgynghori a chasglu data helaeth, mae hyn yn gyflawniad sylweddol i’r tîm. Maent nawr yn gweithio’n galed yn mireinio’r cynlluniau ar gyfer adeiladu ar y môr ac ar y tir, ac yn cymryd y camau angenrheidiol i’n galluogi i wneud Penderfyniad Buddsoddi Terfynol.
“Rydym ni’n parhau i ddatblygu cynlluniau i gefnogi cwmnïau sy’n awyddus i ymuno â’r gadwyn gyflenwi. Ar ben hynny, rydym yn awyddus i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol ar gael yn y gweithlu er mwyn adeiladu, gweithredu a chynnal a cadw’r fferm wynt fwyaf yng Nghymru ar ôl ei chwblhau.”
Mae gan RWE dros ddau ddegawd o brofiad ym maes ynni gwynt alltraeth yn y DU, wedi iddynt ddatblygu ac adeiladu’r fferm wynt alltraeth gyntaf ar raddfa fasnachol yn y wlad, sydd hefyd oddi ar arfordir gogledd Cymru, yng Ngogledd Hoyle.
Mae RWE hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt atraeth yng ngogledd Cymru – yng Ngaerwen ac yn Alwen. Mae gan y cwmni uchelgais hefyd i ddatblygu gwynt arnofiol yn ardal y Môr Celtaidd.
Mae RWE yn datblygu Awel y Môr gyda phartneriaid y prosiect, sef Stadtwerke München (30 y cant) a Siemens Financial Services (10 y cant).