Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr yn cael cymeradwyaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Cymru, 7fed. Rhagfyr 2023

  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo’r cais am drwyddedau morol ar gyfer fferm wynt alltraeth Awel y Môr
  • Mae trwyddedau morol a ddyfernir ar ran gweinidogion Llywodraeth Cymru yn dilyn rhoi Gorchymyn Cydsyniad Datblygu
  • Mae’r trwyddedau ar gyfer gwaith yn yr amgylchedd morol, gan gynnwys ardal aráe tyrbinau gwynt a llwybr y ceblau ar y môr

Mae fferm wynt alltraeth a allai bweru dros hanner cartrefi Cymru wedi cael ei holl gymeradwyaethau cynllunio angenrheidiol drwy ddyfarnu ei drwyddedau morol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’n gam pwysig i fferm wynt alltraeth Awel y Môr, sy’n cael ei datblygu gan RWE ar ran ei phartneriaid, ac a gafodd gymeradwyaeth o’i orchymyn cydsyniad datblygu gan Claire Coutinho, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, ym mis Medi 2023.

Fe fydd y cynllun hwn a fydd yn cael ei leoli oddi ar arfordir gogledd Cymru, y buddsoddiad mwyaf mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn ystod y degawd hwn.

Mae Awel y Môr hefyd yn un o saith datblygiad fferm wynt alltraeth yn y DU y mae Ystad y Goron yn asesu ceisiadau ar eu cyfer i gynyddu capasiti cynhyrchu y tu hwnt i Gytundeb Les cychwynnol y prosiect, gan aros o fewn ei ffiniau cydsynio presennol.

Dywedodd Tamsyn Rowe, Rheolwr y Prosiect: “Gyda’r trwyddedau morol bellach ar waith, gall fferm wynt alltraeth Awel y Môr barhau i symud ymlaen i gamau nesaf y prosiect.

“Fel uchafbwynt dros bum mlynedd o waith yn cynnwys ymgynghori a chasglu data helaeth, mae hyn yn gyflawniad sylweddol i’r tîm. Maent nawr yn gweithio’n galed yn mireinio’r cynlluniau ar gyfer adeiladu ar y môr ac ar y tir, ac yn cymryd y camau angenrheidiol i’n galluogi i wneud Penderfyniad Buddsoddi Terfynol.

“Rydym ni’n parhau i ddatblygu cynlluniau i gefnogi cwmnïau sy’n awyddus i ymuno â’r gadwyn gyflenwi. Ar ben hynny, rydym yn awyddus i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol ar gael yn y gweithlu er mwyn adeiladu, gweithredu a chynnal a cadw’r fferm wynt fwyaf yng Nghymru ar ôl ei chwblhau.”

Mae gan RWE dros ddau ddegawd o brofiad ym maes ynni gwynt alltraeth yn y DU, wedi iddynt ddatblygu ac adeiladu’r fferm wynt alltraeth gyntaf ar raddfa fasnachol yn y wlad, sydd hefyd oddi ar arfordir gogledd Cymru, yng Ngogledd Hoyle.

Mae RWE hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt atraeth yng ngogledd Cymru – yng Ngaerwen ac yn Alwen.  Mae gan y cwmni uchelgais hefyd i ddatblygu gwynt arnofiol yn ardal y Môr Celtaidd.

Mae RWE yn datblygu Awel y Môr gyda phartneriaid y prosiect, sef Stadtwerke München (30 y cant) a Siemens Financial Services (10 y cant).

rhannu