Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Heblaw eich bod chi’n darparu gwybodaeth bersonol i ni’n wirfoddol ac yn bwrpasol, dydyn ni ddim yn casglu gwybodaeth bersonol gan unigolion. Diben ein proses o gasglu gwybodaeth bersonol yw ymateb i geisiadau am wybodaeth neu i ddarparu’r manylion diweddaraf am brosiectau. Byddwn yn pasio eich gwybodaeth bersonol i bobl eraill sy’n cael eu cyflogi gennym i bwrpas prosesu eich manylion ac anfon gwybodaeth atoch. Ni fyddwn yn gwerthu neu’n darparu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti, heblaw fel sydd wedi’i nodi yn y fan hyn, heblaw pan fo’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni wneud hynny. Swyddfa Gofrestredig Awel y Môr Wind Farm Limited yw Windmill Hill Business Park, Whitehill Way, Swindon, Wiltshire, SN5 6PB. Cofrestredig yng Nghymru a Lloegr Rhif. 07320597.
Mae Awel y Môr Offshore Wind Farm Limited yn ymroddedig i’r gofynion statudol o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, ac i weithredu gyda gonestrwydd yn ei holl waith a chydberthnasau busnes er mwyn bod ag agwedd o ddim goddefgarwch i Gaethwasiaeth Fodern. Mae’n disgwyl i’w gyflenwyr i gyd barchu a mabwysiadu’r agwedd hon hefyd. Mae’r datganiad llawn i’w gael yma: Datganiad Caethwasiaeth Fferm a Masnachu Pobl 2018 Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr
Mae Awel y Môr Wind Farm Limited (“Ni”), yn ymroddedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.
Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau defnydd ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddo) yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw ddata personol a gasglwn gennych, neu a ddarparwch i ni, yn cael ei brosesu gennym. Darllenwch y canlynol yn ofalus os gwelwch yn dda i ddeall ein safbwyntiau a’n harferion mewn perthynas â’ch data personol a sut y byddwn yn ei drin. Trwy fynd i www.awelymor.cymru, rydych yn derbyn ac yn cydsynio i’r arferion sydd wedi eu disgrifio yn y polisi hwn.
I bwrpas Deddf Diogelu Data 1998 (y Ddeddf), y rheolydd data yw RWE
Gallem gasglu a phrosesu’r data a ganlyn amdanoch chi:
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu chi oddi wrth ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori ein gwefan ac hefyd yn caniatáu i ni wella ein safle. I gael gwybodaeth fanwl am y cwcis a ddefnyddiwn ac i ba bwrpasau y defnyddiwn nhw, gwelwch ein polisi Cwcis.
Y defnyddiau a wnawn o’r wybodaeth
Rydym yn defnyddio gwybodaeth a ddaliwn amdanoch chi yn y ffyrdd dilynol:
Gallem rannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw aelod o’n grŵp, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni dal pennaf a’i is-gwmnïau, fel sydd wedi ei ddiffinio yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau’r DU 2006.
Gallem rannu eich gwybodaeth gyda chyrff trydydd parti dethol yn cynnwys:
Gallem ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti:
Gallai’r data a gasglwn gennych gael ei drosglwyddo i, a’i storio mewn, cyrchnod y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“EEA”). Gallai hefyd gael ei brosesu gan staff sy’n gweithredu y tu allan i’r EEA sy’n gweithio i ni neu i un o’n cyflenwyr. Gallai staff o’r fath fod wrthi, ymysg pethau eraill, yn cyflawni eich archeb, yn prosesu eich manylion talu ac yn darparu gwasanaethau cymorth. Trwy ddarparu eich data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddo, storio neu brosesu hwn. Byddwn yn cymryd pob cam sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.
Lle’r ydym wedi rhoi cyfrinair i chi (neu lle’r ydych wedi dewis cyfrinair) sy’n caniatáu i chi fynd i mewn i rannau penodol o’n gwefan, rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair gydag unrhyw un arall.
Yn anffodus, nid yw trosglwyddiad gwybodaeth trwy gyfrwng y we yn hollol ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data sy’n cael ei drosglwyddo i’n safle; rydych yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth dan eich risg eich hun. Unwaith y byddwn yn derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau tynn a nodweddion diogelu i geisio atal mynediad heb awdurdod.
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio prosesu eich data personol i bwrpasau marchnata. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu defnyddio eich data i bwrpasau o’r fath neu os byddwn yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti i bwrpasau o’r fath. Gallwch arfer eich hawliau i atal prosesu o’r fath drwy roi tic mewn blychau penodol ar y ffurflenni a ddefnyddiwn i gasglu eich data. Gallwch hefyd arfer yr hawl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni.
Gallai ein safle, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni at ac oddi wrth wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chysylltiadau. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.
Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi gael gafael ar wybodaeth sy’n cael ei dal amdanoch chi. Gallwch arfer eich hawl mynediad yn unol â’r Ddeddf. Efallai y bydd ffi o £10 os gwnewch gais am weld gwybodaeth er mwyn talu ein costau am roi manylion yr wybodaeth a ddaliwn amdanoch i chi.
Byddwn yn postio unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol ar y dudalen hon a, lle bo’n briodol, yn rhoi gwybod i chi mewn neges e-bost. Cadwch lygad yn rheolaidd i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd.
Rydym yn croesawu cwestiynau, sylwadau a cheisiadau am y polisi preifatrwydd hwn a dylech eu hanfon i awelymor@rwe.com