Sylwadau ymgynghoriad Awel y Môr yn cael eu hystyried 

Rhagfyr 2021 

  • Daeth ymgynghoriad chwe wythnos yr hydref i ben ar 11 Hydref 2021
  • Ymarfer ymgysylltu helaeth gyda 900 aelod o’r cyhoedd yn ystod y sioe deithiol, yn ogystal â dros 3,500 o ymwelwyr â’r porth ar-lein a 300 o ymatebion ffurfiol
  • Ymhlith y newidiadau allweddol i’r prosiect mae gostyngiad o 26% yn yr ardal aráe alltraeth a llai o effaith ar Glwb Golff y Rhyl

Derbyniodd ymgynghoriad cyhoeddus diweddar fferm wynt alltraeth Awel y Môr ymateb gwych gan aelodau’r cyhoedd ledled gogledd Cymru. Yn dilyn yr ymarfer, mae RWE wedi ystyried yn ofalus yr holl adborth gan randdeiliaid ac aelodau’r cyhoedd ac, o ganlyniad, wedi newid agweddau allweddol ar y prosiect. 

Gyda phryderon wedi eu nodi ynghylch effaith weledol y fferm wynt, mae’r ardal aráe alltraeth wedi’i lleihau ymhellach ar ei hochr orllewinol, gan arwain at ostyngiad o 26% o ddyluniad gwreiddiol y prosiect yn 2020. 

Yn ogystal â hyn, mae’r mwyafswm o dyrbinau y gellir eu hadeiladu wedi gostwng yn sylweddol o 91 i rhwng 35-50. Bydd y rhif olaf yn dibynnu ar faint y tyrbinau sydd ar gael yn agosach at y cyfnod adeiladu. Er y bydd maint y tyrbinau yn cael effaith ar faint o bŵer a gynhyrchir (po uchaf y tyrbinau, y mwyaf yw’r trydan a gynhyrchir), rhagwelir o hyd y byddan nhw’n cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi ynni glân, gwyrdd i hyd at ryw hanner miliwn o gartrefi y flwyddyn. 

Maes arall o ddiddordeb lleol allweddol a nodwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori oedd y cynnig i leoli gwaith adeiladu ar dir Clwb Golff y Rhyl. Fel y nododd yr adborth a dderbyniwyd yn glir, mae’r clwb golff yn cael ei ystyried a’i fwynhau fel ased cymunedol pwysig, ac mae dyluniad yn cael ei ddatblygu a fydd yn golygu osgoi unrhyw waith uwchben y ddaear yn y clwb. Bydd angen rhywfaint o fynediad i’r cwrs golff o hyd, ond dros dro fydd hwn ac ni ddylai achosi tarfu difrifol. 

Roedd Tamsyn Rowe, Rheolwr Prosiect Awel y Môr, yn awyddus i ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn cyfrannu: 

“Roedd yr adborth a gawsom ni o’r ymgynghoriad yn hynod werthfawr a bydd yn cynorthwyo i lywio ein camau nesaf yn y broses gynllunio. Rydym ni wedi lleihau nifer y tyrbinau yn sylweddol, gan fod yr effaith weledol yn bryder allweddol i lawer. 

“Yn yr un modd, pwysleisiwyd pwysigrwydd Clwb Golff y Rhyl fel man ffocws cymunedol, ac o ganlyniad roeddem ni’n awyddus i gyfathrebu ein cynigion diwygiedig mor gynnar â phosibl yn y broses ddatblygu, i roi sicrwydd i’r clwb a helpu i gefnogi eu gweithgareddau busnes eu hunain a rhag-gynllunio.” 

“Byddwn yn parhau i wneud gwelliannau i’r dyluniad wrth i ni symud tuag at gyflwyno ein ceisiadau cynllunio ffurfiol y flwyddyn nesaf a pharhau i drafod y rhain gyda phartïon â diddordeb, gan gynnwys tirfeddianwyr perthnasol. 

“Hoffwn ailadrodd ein diolch i bawb a gyfrannodd at y broses ymgynghori hon – mae’r adborth wedi bod mor ddefnyddiol i ni.” 

Nod RWE yw cyflwyno ei geisiadau cynllunio ffurfiol yng ngwanwyn 2022. 

Mae RWE, un o fusnesau ynni adnewyddadwy mwyaf blaenllaw’r byd, yn datblygu Awel y Môr ar ran ei hun a’i bartneriaid. Mae’r prosiect yn gyfle enfawr i Gymru wrth iddi geisio cyrraedd ei tharged o gynhyrchu 70% o’i defnydd trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Mae gwynt alltraeth yn un o ddiwydiannau twf mwyaf y DU a bydd Awel y Môr yn helpu i sicrhau bod gogledd Cymru yn derbyn buddsoddiad pellach yn y maes hwn, fydd yn dod â chyfleoedd sylweddol sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi i’r economi leol. 

Yn ystod y gwaith adeiladu, buddsoddodd Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr £90M mewn busnesau yng Nghymru ac, ers dod yn hollol weithredol, mae’r fferm wynt wedi buddsoddi tua £8M yn economi Cymru bob blwyddyn. 

rhannu