Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >
Mae Awel y Môr, fferm wynt ar y môr, a allai ddarparu pŵer ar gyfer hyd at 500,000 o gartrefi, wedi pasio carreg filltir allweddol ar ôl i gynigion gael eu cyflwyno i Arolygiaeth Gynllunio’r DU a’u derbyn i’w hystyried ganddi.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei ddatblygu gan RWE Renewables ar ran partneriaid y prosiect, nawr yn symud i gam ‘cyn-archwilio’ y broses gydsynio cyn archwiliad cyhoeddus, y disgwylir iddo ddechrau ym mis Medi 2022.
Mae’r prosiect yn cynnwys hyd at 50 tyrbin gydag uchder i’r brig o 332 metr, ac mae’n chwaer-brosiect i Gwynt y Môr. Os caiff ei gymeradwyo, gellid adeiladu fferm wynt Awel y Môr tua 10.5km (6.5 milltir) oddi ar arfordir gogledd Cymru, i’r gorllewin o fferm wynt bresennol Gwynt y Môr, gyda’i chysylltiad grid wedi’i gynllunio i gyrraedd y draethlin rhwng y Rhyl a Phrestatyn.
Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol fydd yn gyfrifol am y penderfyniad terfynol ar gydsyniad, a disgwylir penderfyniad yn 2023. Gan fod y Prosiect yn gorwedd yn nyfroedd Cymru, mae angen Trwydded Forol gan Lywodraeth Cymru trwy Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Tamsyn Rowe, Rheolwr Prosiect Awel y Môr: “Mae hon yn garreg filltir bwysig ar gyfer datblygu’r prosiect cenedlaethol hwn, a fydd yn helpu i gyrraedd y targedau yn strategaeth diogelwch ynni’r DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae’r cais yn cynnwys cannoedd o dudalennau o adroddiadau manwl ac mae’n benllanw llawer iawn o waith caled gan dîm y prosiect.
“Os caiff ei gymeradwyo, bydd y prosiect hwn hefyd yn parhau â rôl tymor hir RWE fel y darparwr ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys prosiectau fel Gwynt y Môr a Chlocaenog, a’r cynllun prentisiaeth yng Ngholeg Llandrillo, a fydd yn datblygu sgiliau a galluoedd Cymru yn y sector am flynyddoedd lawer.”
Mae RWE, un o brif fusnesau ynni adnewyddadwy’r byd, yn datblygu Awel y Môr gyda phartneriaid y prosiect, Stadtwerke München (30%) a Siemens Financial Services (10%). Mae RWE yn ail yn y byd am greu ynni gwynt ar y môr ac mae’n gyrru datblygiad y biblinell ynni gwynt ar y môr fwyaf yn y DU. Mae wedi ymrwymo i fuddsoddi £8.5 biliwn gros hyd at 2030 er mwyn ehangu ei gapasiti cynhyrchu gwyrdd pwerus i 50 gigawat, gyda thua £15 biliwn wedi’i glustnodi ar gyfer y DU.
Ffermydd gwynt ar y môr yw un o ddiwydiannau twf mwyaf y DU a bydd cynllun Awel y Môr yn helpu i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cael rhagor o fuddsoddiad yn yr ardal hon, gan ddod â swyddi a chyfleoedd cadwyn gyflenwi sylweddol i’r economi leol. www.awelymor.cymru