Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >
Bydd preswylwyr lleol yn cael ail gyfle i roi sylwadau ar gynlluniau i ddatblygu fferm wynt ar y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru. Heddiw, mae tîm Awel y Môr wedi cyhoeddi Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEIR) y prosiect sy’n cynnwys mapiau a chynlluniau manwl, ynghyd â gwybodaeth am effeithiau disgwyliedig y prosiect a sut byddant yn cael eu hosgoi, eu lleihau a’u lliniaru lle bo hynny’n bosibl.
Mae’r tîm yn gwahodd pobl i adolygu’r adroddiad hwn (gyda Chrynodeb Annhechnegol sy’n addas i bob darllenydd) ac i rannu eu hadborth.
Mae RWE Renewables, ar ran partneriaid prosiect Awel y Môr, wedi datblygu platfform ymgynghori rhithiol sydd ar gael i’w weld ar-lein drwy wefan y prosiect: awelymor.cymru/?lang=cy. Mae tîm y prosiect hefyd yn bwriadu teithio o amgylch Gogledd Cymru i gwrdd â thrigolion yn nes ymlaen ym mis Medi/dechrau mis Hydref.
Bydd dyddiadau a lleoliadau yn yr awyr agored neu leoliadau dan do (mae’r cynlluniau ymgynghori wyneb yn wyneb yn cynnwys cerbyd arddangos symudol ac ymgynghori yn yr awyr agored) yn cael eu cyhoeddi ar wefan y prosiect, a bydd ‘diogelwch covid’ yn flaenoriaeth. Bydd nifer o ddogfennau ymgynghori allweddol hefyd ar gael ar ffurf copi caled mewn llyfrgelloedd dethol a lleoliadau cymunedol drwy gydol y cyfnod ymgynghori o chwe wythnos (gweler y lleoliadau adneuo isod).
Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Tamsyn Rowe, “Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed gan bobl am bob agwedd ar y fferm wynt arfaethedig. Roedden ni wedi cynnal y rownd gyntaf o ymgynghori rhwng 3 Tachwedd a 13 Rhagfyr 2020. Ers hynny, rydyn ni wedi parhau ag astudiaethau ac arolygon ac wedi mireinio ein cynigion y gallwch eu gweld ar ein porth ymgynghori rhithiol.”
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y prosiect hwn a’r hyn y gallai ei gyflawni, nid yn unig o ran ynni adnewyddadwy ond hefyd at greu swyddi medrus a chyfleoedd buddsoddi lleol. Rydyn ni’n croesawu eich safbwyntiau. Dyma eich cyfle chi i siapio ein cynigion a helpu i sicrhau’r prosiect gorau ar gyfer yr ardal cyn i ni gyflwyno ein ceisiadau am y cydsyniadau angenrheidiol yn 2022. Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.”
Mae Awel y Môr yn gyfle unwaith mewn degawd i Gymru, fel yr unig brosiect gwynt ar y môr, gwaelod sefydlog, ar raddfa fasnachol y gellid ei gyflawni yn ystod y 2020au. Ar hyn o bryd, y prosiect hwn fydd y buddsoddiad ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru yn y degawd nesaf ac mae’n hollbwysig fod Cymru’n chwarae rhan yn nhwf ynni gwynt ar y môr yn y DU, yn ogystal â chyflawni ei thargedau hollbwysig o ran ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch anfon neges i awelymor@rwe.com, ffonio 0800 197 8232 neu lenwi holiadur ein prosiect ar-lein (ar gael yn ystod y cyfnod ymgynghori drwy ein gwefan).
Lleoliadau adneuo