Cymuned – Sied Dynion y Rhyl

 

Mae Sied Dynion y Rhyl yn gweithio i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith dynion yn yr ardal, sydd, dros y blynyddoedd, wedi cynnwys cefnogi nifer cynyddol o ddynion ag anawsterau dysgu ac anableddau, cynnig y cyfle i gwrdd â phobl newydd ac i wneud ffrindiau a magu hyder trwy weithgareddau DIY, garddio neu brosiectau eraill a rennir.

Mae cyllid gan Fferm Wynt Ar y Môr Gwynt y Môr wedi helpu i sicrhau bod y safle’n gwbl gynhwysol a hygyrch, gyda’r sefydliad bellach yn gallu meithrin cysylltiadau cryf ag asiantaethau eraill fel y Groes Goch, y GIG a’r awdurdod lleol, i gynnig cymorth i gynifer o unigolion ag y bo modd.

rhyl men's shed