Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Sefydlwyd OPS yn Lerpwl yn 2010 ac mae’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw a hyfforddiant ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr yn y DU a thramor yn ogystal â diwydiannau eraill ar y môr, gyda bron i hanner ei staff wedi’u lleoli yng ngogledd Cymru.
I ddechrau, roedd y cwmni’n arbenigo mewn peintio, mynediad rhaff a hyfforddiant, sefydlwyd yr is-gwmni ynni gwynt, OPS Wind, yn 2021, ac mae bellach yn eistedd ochr yn ochr â’r busnes craidd arall, OPS Training.
Ar hyn o bryd mae gan OP Wind dros 120 o dechnegwyr yn gweithio ar draws y byd, yn gwneud gwaith gwasanaethu a chynnal a chadw, yn cynnwys cynnal a chadw llafnau, mynediad rhaff, diogelu rhag cyrydiad ac archwiliadau statudol ymysg gwasanaethau eraill.

Gyda swyddfeydd yn Llandudno, Glannau Mersi, Lowestoft a Grimsby, mae’r cwmni wedi gweithio ar nifer o safleoedd sy’n cael eu rhedeg gan RWE, gan gynnwys Gwynt y Môr, North Hoyle a Gwastadeddau’r Rhyl yng ngogledd Cymru, ond hefyd ar safleoedd fel Triton Knoll oddi ar arfordir Swydd Lincoln, a Nordsee Ost, sydd 30km o ynys Heligoland yn yr Almaen.
Dywedodd Che Murphy, pennaeth gweithrediadau: “Mae gweithio ym maes ynni adnewyddadwy a bod wedi ein lleoli yng ngogledd Cymru wedi galluogi OP i ehangu i weithio ar draws y byd, a hynny gan gefnogi’r cymunedau rydyn ni wedi’u lleoli ynddynt.
“Mae hyn wedi cynnwys gweithio ar safleoedd sy’n cael eu rhedeg gan RWE ar draws Ewrop, ar ôl datblygu perthynas gref â’r cwmni sy’n arwain y gwaith o ddatblygu Awel y Môr.
“O ganlyniad, rydyn ni wedi gallu ehangu ein gwasanaethau y tu hwnt i’n helfennau craidd, ac erbyn hyn rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth mân broblemau cyn adeiladu a gwaith cynnal a chadw gan gynnwys cydrannau mawr, trydanol, mecanyddol a hydrolegol, ynghyd â rheoli safleoedd.”