Gosod y ffensys cyntaf ar safle is-orsaf Awel y Môr

Cefn Meiriadog, 12. Rhagfyr 2024

First fencing installed at Awel y Môr’s proposed substation site

  • Gosod ffensys Madfallod Dŵr Cribog wrth i’r gwaith o ddatblygu’r prosiect barhau
  • Mae’r ffensys yn galluogi’r tîm i sicrhau nad oes unrhyw rywogaethau gwarchodedig ar y safle
  • Mae madfallod dŵr wedi cael eu symud i gynefin sydd wedi’i greu ar safle’r is-orsaf ar y tir, lle gallan nhw barhau i ffynnu

Mae’r ffensys cyntaf wedi’u gosod ar safle’r is-orsaf ar y tir ar gyfer Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr, a fydd yn un o’r datblygiadau ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru y degawd hwn.

Bydd y ffensys yn galluogi tîm y prosiect i gyflawni un o’i brif ddyletswyddau o ddiogelu unrhyw rywogaethau gwarchodedig yn ystod y gwaith datblygu, sef yn yr achos hwn, Madfallod Dŵr Cribog; fel sy’n ofynnol o dan Orchymyn Cydsyniad Datblygu’r prosiect a chyfreithiau amgylcheddol y DU.

Cafodd trapiau o’r enw pydewau maglu (pitfall traps) eu gosod mewn gwrychoedd ar ymyl y caeau. Roedd y rhain yn cael eu harchwilio’n rheolaidd, a byddai unrhyw fadfallod dŵr yn cael eu trosglwyddo wedyn i gynefin sydd wedi’i greu ar safle’r is-orsaf ar y tir.

Fel rhan o ddatblygiad parhaus y fferm wynt ar y môr, cafodd y gwaith, a oedd yn gofyn am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ei wneud gan SLR a chwmni o gogledd Cymru, sef Enfys Ecology.

Mae datblygiad Awel y Môr yn cael ei arwain ar ran partneriaid gan RWE, prif gynhyrchydd ynni’r DU.

Dywedodd Jo Pickard, Uwch Reolwr Cydsyniadau RWE: “Mae prosiectau fel Awel y Môr yn ffordd allweddol o ddatgarboneiddio’r diwydiant ynni a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Felly, mae sicrhau ein bod ni hefyd yn diogelu rhywogaethau gwarchodedig fel Madfallod Dŵr Cribog yn rhywbeth rydyn ni’n ei gymryd o ddifrif.

“Er y bydd madfallod dŵr yn treulio misoedd oeraf y gaeaf yn gaeafgysgu, ar ôl iddynt ddeffro, maent yn hoffi hela creaduriaid di-asgwrn-cefn mewn glaswelltir twmpathog, corsydd ac wrth ymyl pyllau. Drwy baratoi darn o dir o fewn y safle adeiladu arfaethedig, i ddarparu cynefin addas i fadfallod dŵr cribog, gallwn sicrhau nad yw ein gweithgarwch datblygu arfaethedig yn cael unrhyw effaith negyddol hirdymor ar y rhywogaeth hon.

“Gyda’r ardal bellach yn glir, byddwn yn gallu cynllunio ar gyfer y gwaith adeiladu yn nes ymlaen.”

Bydd Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr yn cynhyrchu pŵer adnewyddadwy sy’n cyfateb i anghenion dros hanner y cartrefi yng Nghymru.

Mae datblygiad Awel y Môr yn cael ei arwain gan RWE ar ran ei bartneriaid prosiect, SWM a Siemens Financial Services.

Ar hyn o bryd mae RWE yn cyflogi tua 350 o staff yng Nghymru, sydd wedi’u gwasgaru rhwng safleoedd ym Mhorthladd Mostyn, Dolgarrog, Baglan, Llandarcy a Phenfro.

Yn ogystal â gwynt ar y môr, mae RWE hefyd yn datblygu pum prosiect gwynt ar y tir, gan gynnwys Fferm Wynt 184MW arfaethedig Carnedd Wen, a fferm solar Craig y Perthi ger Casnewydd.

rhannu