Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Dyma ein cais am Drwydded Forol, a gyflwynwyd i Dîm Trwyddedu Morol Cyfoeth Naturiol Cymru ar 30 Mai ac roedd Tîm Trwyddedu Morol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn ei fod ‘wedi’i wneud yn briodol’ ar 20 Mehefin. Bydd Tîm Trwyddedu Morol Cyfoeth Naturiol Cymru yn penderfynu ar y cais ar ran Gweinidogion Cymru.
Er mwyn osgoi dryswch a lleihau dyblygu ymdrechion i bawb, yn y bôn bydd y cais am drwydded forol yn cynnwys elfennau morol y cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) (hy gyda phenodau’r DCO ar y tir yn cael eu tynnu). Mae penodau DCO generig sy’n ymdrin â materion ar y tir ac ar y môr yn cael eu cadw lle bo hynny’n berthnasol. Mae dogfen gyfeirio (‘Canllaw i’r Cais am Drwydded Forol’) yn cael ei chynnwys i helpu pobl i ganfod y rhannau perthnasol.
Trowch at dudalen ein cais am DCO (DCO Application – Awel Y Mor) i weld y dogfennau a rannwyd, yn unol â’r Canllaw i’r Cais ML, i’ch cynorthwyo.
Cadwch lygad am ymgynghoriad ar wahân Cyfoeth Naturiol Cymru ar elfennau ar y môr y prosiect o dan y rheoliadau trwyddedu morol. Bydd hyn yn cael ei hysbysebu yn y wasg leol, a byddwn yn rhoi gwybod i randdeiliaid am hyn (a materion DCO) drwy wefan y prosiect a rhifynnau o gylchlythyr ein prosiect yn y dyfodol (gallwch gofrestru yma).