Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >
Bydd gwaith arolygu ar y môr ar yr hyn a allai fod yn brosiect ynni adnewyddadwy mwyaf Cymru o’r degawd hwn yn dechrau’n fuan, fel y rhan cyntaf o waith a fydd yn cael ei wneud ar ôl dyfarnu’r Contract Gwahaniaeth yn Rownd Arwerthu 7 y llywodraeth eleni.
Mae’r datblygiad yn cael ei arwain gan brif gynhyrchydd trydan Cymru, sef RWE. Ar ôl i Awel y Môr gael ei adeiladu oddi ar arfordir gogledd Cymru, bydd yn gallu cynhyrchu pŵer a fydd yn cyfateb i 22.5 y cant o’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn flynyddol. [1]
Bydd yr arolygon yn cael eu cynnal gan gontractwyr Geo a TGS, ac yn galluogi gwelliannau dylunio pellach ar gyfer ardal yr aráe 78km², yn ogystal â’i llwybr cebl allforio i safle’r lanfa rhwng y Rhyl a Phrestatyn.
Bydd TGS yn cynnal arolwg geoffisegol, gan ddefnyddio delweddu manylder uchel, i fapio daeareg gwely’r môr yn fanwl. Mi fydd hefyd yn nodi unrhyw glogfeini mawr a nodweddion eraill ar wely’r môr a allai effeithio ar waith adeiladu ar y môr.
Bydd Geo yn cynnal arolwg geodechnegol a fydd yn defnyddio technegau profi treiddio côn a samplu fibrograidd i ymchwilio i natur ddaearegol gwely’r môr ei hun, er mwyn adeiladu ar wybodaeth a gasglwyd yn ystod arolygon tyllau turio blaenorol yn ogystal â gwaith PhD a wnaed ym Mhrifysgol Bangor.[2]
“Bydd y data ychwanegol hwn o’r arolwg yn galluogi’r tîm i fireinio’r dyluniad ac addasu ein dulliau ar gyfer adeiladu ar y môr, sydd wedi’i gynllunio ar hyn o bryd i ddechrau yn 2029.”
“Ein cam nesaf yw penderfynu ar fuddsoddiad terfynol. Bwriedir dechrau adeiladu ar y tir yn 2027 gyda’r is-orsaf ar y tir, ac yna’r llwybr ceblau yn 2028.”
“Byddwn wrth gwrs yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r holl randdeiliaid perthnasol wrth i’n cynlluniau fynd rhagddynt.”
Jo Pickard, Uwch Reolwr Cydsyniadau Awel y Môr
Bydd GEO yn defnyddio dau gwch, a fydd yn gwneud gwaith mewn gwahanol ardaloedd o wely’r môr.
“Mae Geo, arbenigwyr CPT treiddiad dwfn, yn falch o gael contract gan RWE ar gyfer ymchwiliadau geodechnegol yn Awel y Môr, lle bydd y rig CPT mawr newydd o’r enw ‘GeoScope II’ yn cael ei ddefnyddio yn ardal aráe’r fferm wynt.”
“Bydd y GeoCeptor, rig cyfun CPT a fibrograidd effeithiol yn cyflawni’r rhaglen ar hyd llwybr y cebl allforio ar y môr”
Kim Sillemann, Rheolwr Gyfarwyddwr GEO
Mae gan RWE dros ddau ddegawd o brofiad ym maes ynni gwynt alltraeth yn y DU, wedi iddynt ddatblygu ac adeiladu’r fferm wynt alltraeth gyntaf ar raddfa fasnachol yn y wlad, sydd hefyd oddi ar arfordir gogledd Cymru, yn North Hoyle.
Mae RWE yn datblygu Awel y Môr gyda phartneriaid y prosiect, sef Stadtwerke München (30 y cant) a Siemens Financial Services (10 y cant).
Ar gyfer ymholiadau pellach:
Mark Fleming
Cysylltiadau â’r Cyfryngau
RWE Renewables GmbH
Ffôn +44 (0)7825 608096
E mark.fleming@rwe.com
[1] Based on Welsh Government’s most recent (2024) Energy Generation & Use in Wales report https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2026-03/energy-generation-and-use-in-Wales-first-combined-edition.pdf
[2] Bangor University student turns the clock back 20,000 years with RWE backing: https://awelymor.cymru/wp-content/uploads/AYM_Newsletter_May24-small.pdf