Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni

Swindon, Ionawr 2026

Mae Awel y Môr, un o’r buddsoddiadau mwyaf ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ar fin symud ymlaen ar ôl llwyddo i sicrhau Contract ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) gyda Llywodraeth y DU.

Cafodd prosiect Awel y Môr, sydd 10.5km oddi ar arfordir gogledd Cymru, ganiatâd yn 2023 i adeiladu hyd at 50 o dyrbinau, a bydd nawr yn symud tuag at y Penderfyniad Buddsoddi Terfynol (FID) ac at ddechrau’r gwaith adeiladu – bwriedir dechrau’r gwaith yn 2027.

Ers degawd, Awel y Môr yw’r prosiect sefydlog cyntaf ar y môr yng Nghymru i sicrhau Contract ar gyfer Gwahaniaeth. Ar ôl cwblhau’r prosiect, rhagwelir y bydd yn cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i 19 y cant o’r defnydd presennol yng Nghymru, neu’n cyfateb i anghenion dros 50 y cant o aelwydydd yng Nghymru.

Dywedodd Philippa Powell, Arweinydd Prosiect Awel y Môr: “Ar ôl llwyddo i sicrhau Contract ar gyfer Gwahaniaeth, gall un o’r buddsoddiadau mwyaf ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru symud ymlaen yn hyderus tuag at y cam datblygu/cyflawni nesaf.

“Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn datblygu ac yn mireinio ein cynllun, ac yn meithrin perthynas â rhanddeiliaid a chyflenwyr, ein camau nesaf fydd cynnal ymchwiliadau ychwanegol i safleoedd ar y tir ac ar y môr yn ystod 2026, cyn i’r gwaith adeiladu arfaethedig ddechrau yn 2027.

“Byddwn, wrth gwrs, yn sicrhau bod ein cymunedau lleol, ein cyflenwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill yn parhau i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf wrth i ni symud ymlaen.”

Mae’r pris sefydlog o £91.20 yn golygu fod y prosiect yn sicr o gael y pris hwn fesul megawat awr am y ddau ddegawd nesaf, gyda Chwmni Contractau Carbon Isel Llywodraeth y DU yn elwa o’r hyn sy’n weddill pan fydd pris y farchnad yn codi uwchlaw hyn.

Mae hyn yn cymharu â phris o £147 am bob megawat awr ar gyfer unrhyw gapasiti cynhyrchu nwy newydd.

RWE yw un o brif gwmnïau’r byd ym maes gwynt ar y môr. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n rhedeg 19 o ffermydd gwynt ar y môr mewn pum gwlad, gan gynnwys tair yng Nghymru. Cyfanswm y capasiti gosodedig yw 6.2 GW, a chyfran RWE yn y prosiectau hyn yw 3.3 GW.

Mae prosiectau RWE yn Norfolk Vanguard East a Norfolk Vanguard West RWE, yn ogystal â’i ddau brosiect yn Dogger Bank South, sydd i gyd wedi’u lleoli ym Môr y Gogledd, hefyd wedi llwyddo i sicrhau Contract ar gyfer Gwahaniaeth.

Markus Krebber, Prif Swyddog Gweithredol RWE AG: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi llwyddo i sicrhau contractau hirdymor ar gyfer pum prosiect yn AR7.

Yn Awel y Môr, rydyn ni hefyd yn falch o fod yn cydweithio â Stadtwerke München a Siemens, sy’n defnyddio eu harbenigedd a’u hymrwymiad er mwyn cyfrannu at ein llwyddiant.

“Yn dilyn deilliant llwyddiannus AR7, mae RWE wedi cyrraedd cerrig milltir allweddol o ran darparu ei biblinell o ddatblygiadau gwynt ar y môr yn y DU.”

rhannu