Arbenigwr sgiliau yng Ngwynedd yn gweithio ar strategaeth Awel y Môr

Astudiaeth Achos

James Goodman

Mae tîm Awel y Môr yn gweithio gydag ymgynghorydd sgiliau yng Ngwynedd wrth iddo ddatblygu ei strategaeth ar gyfer sgiliau a chyflogaeth.
Mae James Goodman yn gweithio fel ymgynghorydd ers 2021, yn dilyn 17 mlynedd mewn addysg uwch lle bu’n gweithio ym maes rheoli cyllid, ymchwil ac ymgysylltu â’r gymuned, yn ogystal â chydlynu prosiectau mawr ar draws amrywiaeth eang o sectorau; gan gynnwys gwyddorau’r môr, gwyddorau digidol, peirianneg niwclear, busnes a’r celfyddydau.

Mae wedi datblygu portffolio llwyddiannus o waith yn cefnogi prifysgolion y rhanbarth, gan gynnwys Prifysgol Wrecsam, gan helpu i sicrhau £11.5m tuag at eu canolfan peirianneg a chyfansoddion newydd.
Mae hefyd wedi darparu gwasanaethau ymchwil desg i Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer eu cynllun sgiliau a chyflogadwyedd 2023-2025.
Dywedodd James: “Fel Ymgynghoriaeth James Goodman Consulting, rwy’n falch iawn o gefnogi RWE ac Awel y Môr i ddatblygu eu Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth derfynol, ac i weithio i greu a gwella cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau presennol ar gyfer y rhanbarth.”