Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Mae cwmni o Sir y Fflint wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith cyn adeiladu Awel y Môr wrth i’r prosiect gwblhau’r cynlluniau ar gyfer llwybr ei geblau ar y tir.
Mae Geotechnics wedi bod yn cynnal ymchwiliadau ar y tir a fydd, yn y pen draw, yn cynnal cysylltiad tanddaearol Awel y Môr i’w isorsaf ar y tir.
Mae’r busnes yn cyflogi tua 100 o bobl, ac mae’n cynnig samplu yn y maes, profion, profion labordy ac adroddiadau desg ochr yn ochr â gwasanaethau ymchwiliadau safle eraill i helpu i ddylunio gwaith a lleihau risgiau cyn i’r gwaith adeiladu ddigwydd.
Dywedodd Paul Hayes, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o Awel y Môr, sy’n cynnig cyfle enfawr i ogledd Cymru wrth iddo ddatblygu.
“Mae’r diwydiant ynni adnewyddadwy yn faes sy’n tyfu ar gyfer ein busnes, sydd hefyd wedi cael ei alw i helpu prosiectau gan gynnwys prosiectau datgarboneiddio eraill, ond hefyd piblinellau, llwybrau ceblau, dyfrbontydd, priffyrdd ac ailddatblygiadau trefol.
“Ar ôl gosod ein cynlluniau ein hunain i gyrraedd sero net yn unol â thargedau Llywodraeth y DU, mae’n braf iawn bod yn rhan o’r hyn sy’n ddarn mawr o’r pos ar gyfer datgarboneiddio ynni yn ein rhan ni o’r byd.”