Archaeoleg ffermydd gwynt yn cynnig cipolwg ar ffyrdd hynafol o fyw yng ngogledd Cymru 

Swindon, 8. Hydref 2024

  • Darganfod tystiolaeth o dai crwn 10m o uchder, yn ogystal â chwpan glai ac erfyn gwehyddu hynafol
  • Archaeoleg yn rhan o waith paratoi sy’n mynd ymlaen ar y safle yn yr is-orsaf ar y tir sy’n gysylltiedig â Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr
  • Mae gwaith arall wedi cynnwys profi tyllau turio ar lwybr y ceblau ar y tir a chreu cynefin i fadfallod dŵr cribog

Mae tystiolaeth o ddau dŷ crwn hynafol ac arteffactau domestig, gan gynnwys cwpan glai ac erfyn carreg diddorol, wedi cael eu darganfod yn ystod gwaith cloddio archaeolegol cychwynnol yng ngogledd Cymru fel rhan o waith paratoi ar gyfer fferm wynt ar y môr.

Daethpwyd o hyd i’r olion, a allai ddyddio mor bell yn ôl â’r oes haearn (800CC-48OC) neu gyfnod y feddiannaeth Rufeinig (48OC-410OC), fel rhan o arolwg archaeolegol o ffos brawf cyn adeiladu ar gyfer fferm wynt Awel y Môr, sef y buddsoddiad mwyaf mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru y degawd hwn.

Y cipolwg cyntaf yn unig ar archaeoleg y safle yw’r darganfyddiadau diddorol hyn, ac wrth i’r prosiect barhau, y gobaith yw y gall rhagor o waith cloddio ac ymchwil ddatgelu rhagor o ddealltwriaeth o orffennol yr ardal. Mae tîm y prosiect bellach yn cynllunio rhagor o ymchwiliadau manwl cyn dechrau adeiladu’r safle yn Sir Ddinbych, i’r gorllewin o Barc Busnes Llanelwy, a fydd yn y pen draw yn gartref i is-orsaf y prosiect ar y tir.

Mae gwaith diweddar arall i baratoi ar gyfer y gwaith adeiladu wedi cynnwys ymchwiliadau tyllau turio ar hyd llwybr y cebl tanddaearol, a chreu cynefin gwell ar gyfer madfallod dŵr cribog yn yr is-orsaf.

Dywedodd Liz Statham, Swyddog Prosiect o Wessex Archaeology: “Mae defnyddio technegau geoffisegol cyn i ni ddechrau gwaith cloddio archaeolegol yn ein galluogi i weld o dan y pridd ar draws ardaloedd mawr, sy’n gyffrous iawn gan ei fod yn golygu y gallwn ni ddechrau creu darlun o archaeoleg ardal gymharol eang.

“Ar safle is-orsaf ar y tir Awel y Môr, roedd yr arolwg geoffisegol wedi datgelu tystiolaeth o ddau dŷ crwn hynafol yn mesur tua 10m ar draws. Mae’n debygol iawn y byddai’r rhain wedi bod mewn caeau a phadogau lle byddai anifeiliaid yn cael eu cadw a chnydau’n cael eu tyfu.

“Ar ôl yr arolwg, buom yn cloddio ffosydd prawf ac yn canfod tystiolaeth a oedd yn cadarnhau hyn, gan gynnwys esgyrn anifeiliaid sy’n awgrymu bod gwartheg, defaid a moch yn cael eu cadw, yn ogystal â rhai canfyddiadau sy’n rhoi cipolwg ar sut gallai bywyd bob dydd fod wedi edrych yn yr anheddiad hwn, gan gynnwys carreg a gâi ei defnyddio o bosibl i wehyddu brethyn, a chwpan glai fach iawn.

“Mae’r safle hwn ar ffordd fodern y B5381 tua’r gorllewin o Lanelwy i Foelfre y credir ei bod yn dilyn cwrs ffordd Rufeinig, felly mae’n bosibl y byddai’r anheddiad hwn wedi cael ei adeiladu neu ei ehangu oherwydd y cyfleoedd a ddarparai’r ffordd i fasnach a chludiant.”

Mae Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr yn cael ei datblygu gan brif gynhyrchydd ynni’r DU, RWE, ar ran partneriaid.

Ar ôl ei chwblhau, bydd y fferm wynt yn gallu cynhyrchu pŵer sy’n cyfateb i anghenion mwy na hanner y cartrefi yng Nghymru.

Dywedodd Tamsyn Rowe, Arweinydd Prosiect Awel y Môr: “Mae datblygiadau fel Awel y Môr yn creu swyddi ac yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy  ond mae iddyn nhw fanteision mawr hefyd yn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r mannau lle maen nhw.

“Yn ogystal â hyn, mae RWE hefyd wedi gallu ariannu PhD yn rhannol, i edrych ar amodau dan y môr oddi ar arfordir gogledd Cymru a sut y newidiodd yn yr oes iâ ddiwethaf, sydd hefyd â goblygiadau i’n peirianneg a’n dyluniad.

“Mae’r tîm a minnau’n edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth dros y misoedd nesaf wrth i’n gwaith fynd rhagddo.”

Mae gan RWE dros ddau ddegawd o brofiad ym maes ynni gwynt alltraeth yn y DU, wedi iddynt ddatblygu ac adeiladu’r fferm wynt alltraeth gyntaf ar raddfa fasnachol yn y wlad, sydd hefyd oddi ar arfordir gogledd Cymru, yn North Hoyle.

Mae RWE hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir mewn rhannau eraill o’r rhanbarth, sef yng Ngaerwen a Choedwig Alwen.

Mae RWE yn datblygu Awel y Môr gyda phartneriaid y prosiect, sef Stadtwerke München (30 y cant) a Siemens Financial Services (10 y cant).

 

rhannu