Trafnidiaeth Gymunedol

Mae Dolen Teifi yn sefydliad trafnidiaeth gynaliadwy gymunedol a gafodd gefnogaeth ariannol gan Fferm Wynt ar y Tir Coedwig Brechfa i gyflogi swyddog datblygu am ddwy flynedd, yn ogystal â phrynu cerbyd trydan â phum sedd, sy’n gwbl hygyrch i’r anabl, ynghyd â gosod pedwar pwynt gwefru newydd a darparu hyfforddiant i aelodau’r gymuned.

Mae’r cerbyd trydan newydd wedi helpu pobl leol i wneud cannoedd o deithiau, gan gysylltu pobl ag apwyntiadau meddygol a gwasanaethau hanfodol eraill, yn ogystal ag atal ynysu cymdeithasol am gost carbon isel.

O ganlyniad, llwyddodd Dolen Teifi wedyn i gael mynediad llwyddiannus at arian y Loteri Genedlaethol i ehangu’r cynllun ymhellach, gan brynu tri cherbyd trydan ychwanegol.