Un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed ym maes ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn cymryd cam hollbwysig tuag at gyflawni
darganfod mwy >Mae Daydream Designs o Dreffynnon wedi bod yn gweithio gyda’r datblygwr RWE Renewables i sicrhau bod gwybodaeth ar gael ledled gogledd Cymru, drwy ddarparu gwefan prosiect Awel y Môr a gwasanaethau dylunio eraill.
Mae hyn wedi cynnwys holiaduron, graffeg a lluniau, a’r arddangosfa ar-lein ar gyfer ymgynghoriadau cyhoeddus Awel y Môr, a helpodd i arddangos y datblygiad pan roedd digwyddiadau wyneb yn wyneb wedi’u eu cyfyngu gan y pandemig.
Dywedodd y cyfarwyddwr creadigol, Sian Saunders, fod gweithio gyda thîm Awel y Môr wedi helpu’r cwmni i ddysgu cymaint mwy am y posibiliadau o ran ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Dywedodd Sian: “Rydw i’n gallu gweld fferm wynt Gwynt y Môr o fy nghartref, sydd wedi ei gwneud yn haws o lawer dychmygu sut bydd Awel y Môr yn edrych wrth greu graffeg a lluniau eraill.
“Rydyn ni’n dîm bach yma yn Nhreffynnon, ond rydyn ni i gyd wedi ymrwymo i wneud ein rhan i symud yn nes at sero net.
“Fe wnaethon ni newid y cwmni i gyflenwr ynni adnewyddadwy yn unig ychydig flynyddoedd yn ôl, felly mae gweithio i wireddu’r prosiect hwn, ochr yn ochr â nifer o brosiectau eraill rydyn ni’n cyfrannu atynt mewn rhannau eraill o Gymru, wedi bod yn galonogol.”
Cewch ragor o wybodaeth am Daydream Designs ar eu gwefan,Cliciwch yma