Workplace Worksafe Ltd

Astudiaeth Achos

Ar hyn o bryd, mae Workplace Worksafe Ltd yn cyflenwi cyfarpar diogelu personol i’r cannoedd o staff sy’n gweithio ym Mhorthladd Mostyn, ac mae wedi bod yn cyflenwi dillad i dîm prosiect Awel y Môr wrth iddynt gynnal arolygon a gwaith arall ledled Gogledd Cymru.

Mae’r cwmni’n cyflogi 14 o staff ac, yn ogystal â chyflenwi cyfarpar diogelu personol a dillad, mae hefyd wedi datblygu amrywiaeth o gynhyrchion eraill ar gyfer diogelu cydrannau tyrbinau gwerthfawr wrth eu cludo.

Dywedodd Rhian Parry, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Mae cyfleoedd mawr hyd yn oed i fusnesau llai ym maes ynni adnewyddadwy.

“Un enghraifft dda yw ein cynhyrchion cludo amddiffynnol Deltasafe a SiTsafe: fe wnaethon ni eu datblygu yma yn Rhuthun ac nawr maen nhw’n cael eu gwerthu gan wneuthurwr cydrannau mawr i ffermydd gwynt ledled y byd, gan arbed cannoedd o oriau gwaith ar bob safle maen nhw’n cael eu defnyddio bob blwyddyn, yn ogystal â chael gwared ar y plastig a’r cardfwrdd untro a oedd yn cael eu defnyddio’n flaenorol yn y gadwyn gyflenwi wrth gludo’r eitemau.

“Rydyn ni eisoes wedi meithrin perthynas dda â thîm Awel y Môr, ac rydyn ni gobeithio y bydd hyn yn parhau os bydd y prosiect yn cael cydsyniad datblygu.”