Gwaith cyn adeiladu ar fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr

Gwaith cyn adeiladu

Er nad oes disgwyl i’r gwaith adeiladu llawn ddechrau tan 2027, byddwn yn gwneud rhywfaint o waith cyn adeiladu i baratoi at hynny, gan gynnwys gwaith ar y tir ar safle ein his-orsaf ger Bodelwyddan.

Dros haf 2026 byddwn yn parhau i gynnal ymchwiliadau archaeolegol, a fydd yn golygu cau un lôn ar Ffordd Glascoed, i’r gorllewin o Barc Busnes Llanelwy, er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy’n defnyddio’r ffordd wrth i gerbydau ddod i mewn ac allan o’r safle.

Mae’r gwaith hwn yn dilyn ymchwiliadau archaeolegol eraill a gynhaliwyd yn 2024. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliadau hyn ar gael yma.

Rydym ni hefyd wedi bod yn cynnal ymchwiliadau safle ar y môr, yn yr ardal aráe ac ar y coridor ceblau alltraeth. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael yng nghylchlythyr y Gwanwyn.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu bryderon am y gwaith, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm gan ddefnyddio’r manylion ar y dudalen ‘cysylltu â ni’.

Byddwn yn dal ati i ddiweddaru ein gwefan wrth i’r gwaith fynd rhagddo yn y misoedd nesaf.